Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae amrywiaeth helaeth o archifau a llawysgrifau yn y Llyfrgell, ac mae’r dogfennau a geir ynddynt yn amrywiol o ran maint, testun a diwyg. O siarteri canoloesol Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell i gofnodion diweddar Eisteddfod Genedlaethol Cymru, o archif wleidyddol y diweddar Gwynfor Evans i lyfrau lloffion y paffiwr Freddie Welsh, ac o ewyllysiau’r werin i drysorau cenedlaethol, mae’r archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys gwybodaeth amrywiol ym mhob maes.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3BU

Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Gwener: 09:00 – 18:00
Dydd Sadwrn: 9:30 – 17:00

Eitemau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  1. Hawlfraint Cyngor Caerdydd - delwedd trwy law Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Cais Caerdydd i gael statws Prifddinas Cymru

  2. Delwedd trwy law Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://creativecommons.org/licenses/by-nc/4.0/

    Anerchiad Etholiad Millicent Mackenzie – y fenyw cyntaf i sefyll Etholiad Cyffredinol yng Nghymru

  3. Delwedd trwy law Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://rightsstatements.org/page/InC-NC/1.0/

    Refferendwm datganoli 1997

  4. Hawlfaint stad James Griffiths - delwedd trwy law Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Araith James Griffiths ar ei benodiad fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyntaf