Newyddion

Yr Adeiladau Anghofiedig

Conwy Archive Service ConservatorMae gwaith yn mynd rhagddo yng Ngwasanaeth Archifau Conwy i gadw a digideiddio mwy na 400 o ddarluniau pensaernïol o gasgliad Sidney Colwyn Foulkes (1884-1971) diolch i grant o £12,898 a ddyfarnwyd ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadw Llawysgrifau Cenedlaethol a MALD.

Pensaer Arloesol o Fae Colwyn oedd Colwyn Foulkes a sefydlodd bracdis llwyddiannus yn ei dref enedigol.  Chwaraeodd ran bwysig wrth ail-lunio’r safon ar gyfer tai cymdeithasol yn yr 1950au gyda chartrefi ymarferol ac atyniadol wedi eu dylunio yn dda ac a dderbyniodd ganmoliaeth gan Clough Williams Ellis a Frank Lloyd Wright.  Ef oedd un o’r penseiri tirlun diwydiannol cyntaf, yn goruchwylio datblygiadau mawr mewn amgylcheddau gweledol sensitif; sylfaenydd Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ac yn weithredol o fewn Cyngor Gwarchod Cymru Wledig.

Mae’r darluniau a ddewiswyd yn cynrychioli’r math o adeiladau sydd wedi bod yn ddiamddiffyn o safbwynt newidiadau mewn anghenion cymdeithasol neu fusnes, neu sydd wedi para yn hirach na’r cyfnod y buont yn ddefnyddiol; banciau, cartref plant, mannau addoli a sinemâu. Mewn sawl achos, y darluniau o bosib yw’r unig dystiolaeth bod yr adeiladau hyn a fu unwaith o bwysigrwydd dinesig erioed wedi bodoli.

Nid oes yr un banc gweithredol bellach yng Nghonwy, pwnc llosg lleol i dref sirol a chyrchfan i ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’r casgliad yn cynnwys cynlluniau ar gyfer 3 banc o ddechrau’r ugeinfed Ganrif yng Nghonwy a Deganwy sydd wedi eu hail gynllunio fel bwytai neu fusnesau eraill i dwristiaid.

Sefydliad elusennol i blant sâl o Fanceinion oedd Cartref Coffa Dr Garrett i Blant, a gaeodd ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.  Ar y safle roedd cabanau troadwy anarferol a oedd yn golygu bod plant oedd yn gwella yn cael manteision awyr y môr a heulwen.  Mae llawer o gyn-drigolion wedi dod i’r archif i hel atgofion dros y casgliad o luniau ac i ymweld â’r safle, lle mae ystâd o dai digon digyffro bellach.

Adeiladwyd Eglwys Crist Llandudno yn yr 1880au fel Capel Presbyteraidd Saesneg.  Cafodd ei addasu gan Colwyn Foulkes at bwrpas crefyddol parhaol yn yr 1980au ond bellach mae’n fenter chwarae plant o’r enw ‘Bonkerz’.  Mae hyn yn arferol ar gyfer eglwysi a chapeli plwyfi, sydd yn ddiamddiffyn wrth i enwadau ei chael hi’n anodd lleihau eu portffolio adeiladau.

Roedd sinemâu yn arbenigaeth gan y pensaer, a derbyniodd Wobr Sinema’r Flwyddyn yn 1936. Roedd Y Palas yng Nghonwy yn heriol iawn.  Llwyddodd i greu adeilad modern oedd yn gweddu’n dda i’w leoliad o fewn tref gaerog Edwardaidd. Doedd y tu allan fodd bynnag, ddim yn datgelu cyfrinach ei du mewn cyfoes gyda’i awditoriwm ysgubol a’i lwyfan gyda cholofnau arian bob ochr.  Goleuadau holophane arddangosiadol oedd yno yn llenwi’r tu mewn â golau.  Mae’r adeilad yn bodoli hyd heddiw ond yn anffodus mae wedi dirywio ac ond yn cael ei ddefnyddio fel Neuadd Bingo.  Comisiynwyd Colwyn Foulkes i ddylunio llawer o sinemâu eraill yn yr 1930au yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ond does yr un ohonynt wedi goroesi yn eu ffurf wreiddiol (neu o gwbl).

Meddai’r Archifydd Susan Ellis: “Mae darluniau pensaernïol yn cynrychioli adnodd sylweddol ar gyfer ymchwil. Gyda’r grant hwn gallwn sicrhau bod cofnod o’r adeiladau hyn fu’n bwysig ar un tro yn goroesi ac ar gael yn ddigidol.”  Bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn hydref 2018.

#CaruMapiau

Pob dydd Iau, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi blog newydd , fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau. Gwahoddir unigolion i ddewis eu hoff fapiau o gasgliad y Llyfrgell, ac wythnos yma dyma tro Dr. Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, a ddwewisodd Map 17eg ganrif o Whitlera, Sir Gaerfyrddin. Mae’r map wedi’i fraslunio ar ddalen sengl o bapur sy’n dangos  ‘the mease [h.y. tŷ] of Whitlera’, ynghyd ag adeilad cyfagos a’r tiroedd gerllaw.

17th century map of Whitlera, Carmarthenshire

Cliciwch yma i ddarllen blog Shaun, neu dilynwch y dolenni isod i ddarganfod pam dewiswyd y mapiau canlynol fel ffefrynnau hefyd.

Huw Owen, cyn geidwad darluniau a mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Humphrey Llwyd – Cambriae Typus, 1573

“Roedd y Cambriae Typus wedi’i ysgythru’n gain, yn mesur 456 x 348mm, a’r raddfa o 1 modfedd i 8.2 milltir i’w gweld yn y gornel chwith isaf. Ymhlith y nodweddion addurnol eraill oedd y teitl, y llythrennu a llun o long ag iddi dri hwylbren ym Mae Ceredigion, a darluniad o greadur y môr ger Abergwaun.”
Darllenwch mwy yma


Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Linda Tomos

Picture 519

“Trefnwyd y mapiau fel sgrôl gyda phob stribyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol megis bryniau ac afonydd, eglwysi ac ystadau, ac yn nodi a oedd gwrychoedd yn amgáu’r ffordd neu beidio.  Roedd tirnodau lleol, tafarndai, pontydd a rhydau yn gymorth i sicrhau fod teithwyr ar y trywydd iawn.”
Darllenwch mwy yma

 

Picture 1219

Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth

“Rydw i wastad wedi cael fy nghyfareddu gan fapiau sy’n ceisio darlunio daearyddiaeth yr iaith Gymraeg. Un o’r rhai cyntaf i geisio gwneud hynny oedd y map hwn gan JE Southall, a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad o 1891.”
Darllenwch mwy yma

 

 

Awdur, darlledwr a ffan o fapiau Mike ParkerPicture 131

“I ddyfrio’r dinasoedd oedd yn tyfu, gwelodd diwedd yr oes Fictorianaidd Lerpwl yn adeiladu Llyn Efyrnwy a chynllun uchelgeisiol Birmingham yng Nghwm Elan.  Penderfynodd Llundain hefyd eu bod yn dymuno cael cyfran o ddŵr Cymru.

Byddai’r cynllun hwn a anghofiwyd i raddau helaeth, y manylwyd arno yn gywrain yn y mapiau hyfryd hyn, wedi newid canolbarth Cymru yn sylfaenol am byth.” Darllenwch mwy yma

Gallwch ddilyn y blog #CaruMapiau yma: #CaruMapiau

Prosiect Newydd Ymddiriedolaeth Wellcome yn Archifau Gwent

Mae Archifau Gwent yn falch o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedolaeth Wellcome am £38,729 i ariannu’n cynllun: ‘O’r “Geiniog yn y Bunt” at “Am ddim yn y Man Darparu”: Catalogio cofnodion ysbytai Sir Fynwy cyn ac ar ôl 1948.’

Mae cofnodion ysbytai Sir Fynwy yn arbennig o werthfawr oherwydd y ddealltwriaeth y maen nhw’n rhoi am hanes darpariaeth gofal iechyd yn yr ardal a ysgogodd Aneurin Bevan i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

From A Penny in the Pound to Free at the Point of Delivery- Cataloguing the pre- and post-1948 hospital records of Monmouthshire

Cyn 1948, cafodd nifer o ysbytai eu hadeiladu a’u cynnal gydag arian a gronnwyd trwy roddion a thanysgrifiadau gan aelodau. Daeth y cyfoethog a’r tlawd at ei gilydd gyda’r bwriad o wella cyfleusterau meddygol yn y sir.  Cyfrannodd y cyfoethog arian, cynnyrch a thir a chytunodd gweithwyr diwydiannol lleol i aberthu ‘ceiniog yn y bunt’ allan o’u cyflogau i gefnogi’r cymdeithasau cymorth meddygol newydd.

Datblygodd y cymdeithasau yma wasanaethau ysbyty a gofal iechyd yn Sir Fynwy a sicrhau nad oedd rhaid i danysgrifwyr a chyfranwyr ariannol (a’u dibynyddion) dalu tâl rhagor am gymorth meddygol.  Fel Cadeirydd pwyllgor rheoli Ysbyty Bach Parc Tredegar a ariannwyd gan gymdeithas feddygol yn 1929, byddai Bevan wedi gweld yn uniongyrchol llwyddiant y model yma o ofal iechyd lleol. Yn 1948 gellid gweld ei ddylanwad pan gyflwynwyd y GIG.

70 mlynedd ers sefydlu’r GIG, bydd Archifau Gwent yn sicrhau bod y dogfennau sy’n cofnodi hanes darpariaeth feddygol yn Sir Fynwy, a’i rhan yn ysbrydoli system gofal iechyd ‘am ddim yn y man darparu’, ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu penodiad archifydd cynllun a chynorthwyydd cadwraeth a fydd, dros y flwyddyn nesaf, yn catalogio ac yn cadw eu gofnodion ysbytai yn yr 20fed Ganrif nad sydd wedi eu rhestru. Mae’r casgliad eang yma’n cynnwys amrywiaeth eang o lyfrau cofnodion, cofrestrau a chynlluniau ysbytai a bydd yn adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr y dyfodol mewn nifer o feysydd.

Ar ôl clywed am y grant dywedodd yr Archifydd Sirol, Tony Hopkins:

‘Mae’r cofnodion gofal iechyd sydd gan Archifau Gwent o bwys cenedlaethol o ystyried eu dylanwad ar sefydlu’r GIG. Maen nhw’n hynod o bwysig hefyd ar gyfer deall hanes cymdeithasol a lles de-ddwyrain diwydiannol Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Yn fyr, mae hwn yn adnodd archifol pwysig a fydd ar gael i ymchwilwyr cyn bo hir diolch i’r grant hael yma gan Ymddiriedolaeth Wellcome.’

Dilynwch y blog ym am fwy o wybodaeth: Blog ‘O’r “Geiniog yn y Bunt” at “Am ddim yn y Man Darparu”: Catalogio cofnodion ysbytai Sir Fynwy cyn ac ar ôl 1948.’

Polisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru

07 - CopyParatowyd y polisi hwn gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru i gydnabod yr her strategol sylweddol y mae sefydliadau yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn creu cofnodion yn ei hwynebu o safbwynt cadwedigaeth ddigidol, ac i’r gwasanaethau archifau sy’n gyfrifol am eu diogelu’n barhaol. Er mwyn rheoli a gofalu’n briodol am gofnodion digidol,  mae angen adnoddau ychwanegol a sgiliau newydd sy’n aml ddim ar gael mewn sefydliadau unigol, ac argymhellir dull cydweithredol.

Nodau’r Polisi

  •  Sicrhau bod adnoddau digidol gwerthfawr a pharhaol yn cael eu dewis i’w diogelu a’u cadw’n ddilys a hygyrch yn y dyfodol.
  • Darparu fframwaith ar gyfer datblygu strategaethau cadwedigaeth ddigidol y gellir eu haddasu i’w defnyddio gan sefydliadau drwy Gymru, waeth beth fo’u maint a’u capasiti.
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Cadwedigaeth Ddigidol effeithiol ymysg sefydliadau archifau ac ymarferwyr, rheolwyr, staff technoleg gwybodaeth a rhanddeiliaid / gwneuthurwyr polisi.

Defnyddiwch y dolenni isod i ddarllen:

Polisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru

Yr Atodiad Technegol

Mae Gweithgor Cadwedigaeth Ddigidol CAAC yn parhau i fynd i’r afael â’r potensial i gael datrysiad cadwedigaeth ddigidol Cymru gyfan, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol a chywir yn sgil y datblygiadau hyn a pholisi ehangach a newidiadau technegol.

Lansio ymgyrch Archwilio eich Archif 2017 yn Archifau Morgannwg

Ar ddydd Gwener 17eg o Dachwedd bydd ymgyrch Archwilio eich Archif yn cael ei lansio yn swyddogol yn Archifau Morgannwg gan y gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug.

Nod ymgyrch Archwilio eich Archif yw agor y casgliadau ac archifau gwych sy’n cael eu gwarchod gan sefydliadau – cyhoeddus a phreifat – ar draws y DU ac Iwerddon, beth bynnag fo’u maint, a ble bynnag y maent.
Mae’r ymgyrch yn eiddo i’r sector ei hun ac yn cael ei arwain gan ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys The National Archives (UK) a’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon), ac yn cael ei gefnogi yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Archifau ledled Cymru yn dathlu ac yn arddangos y gorau o archifau a gwasanaethau archifol rhwng y 18fed o Dachwedd a 26ain o Dachwedd 2017.

 

 



Meddai’r gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug:

“Mae ymweld â archifdy yn gallu mynd â chi ar antur ac efallai y byddwch chi’n dod o hyd i  lawer mwy nag yr oeddech chi’n ei ddychmygu. Mae Archifau’n galluogi pob un ohonom i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd ein cymunedau ”

Meddai Rhian Diggins, Uwch Archifydd Archifau Morgannwg:

“Mae Casgliad Archifau Morgannwg yn cynnig ffenestr i’r gorffennol, yn helpu ni i ddarganfod sut bu pobol fel ni yn byw eu bywydau yn yr oes a fu, ac yn adlewyrchu trawsnewidiad Morgannwg o gymuned wledig i gadarnle diwydiannol bu’n pweru’r byd.”

Mae archifau yn llawn cynnwys diddorol i ddarllen, cyffwrdd ac archwilio, ac nid yw’r rhan fwyaf ohono ar gael ar y wê. Cymerwch amser i archwilio archifau – byddwch chi’n rhyfeddu at beth sydd i’w ddarganfod. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, bydd rhywbeth i’ch ysbrydoli mewn archifau. I ddarganfod mwy am archifau, a sut y gallwch chi ddechrau eich antur eich hun, ewch i http://www.exploreyourarchive.org.

Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i ymuno yn yr ymgyrch Archwilio eich Archif ar Twitter gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eu storïau a’u lluniau gan ddefnyddio’r hashtag #ArchwilioArchifau.

Bydd hashtags dyddiol hefyd yn cael ei ddefnyddio:

Dydd Llun 20 Tachwedd: #FfasiwnArchifau
Dydd Mawrth 21ain Tachwedd: #ArchifauBlasus
Dydd Mercher 22 Tachwedd: #ArchifauBlewog
Dydd Iau 23ain Tachwedd: #DarganfodArchifau
Dydd Gwener 24 Tachwedd: #CaruArchifau
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd: #ArchwilioArchifau