Polisi Preifatrwydd

Preifatrwydd i ddefnyddwyr Gwefan archifau.cymru

Nid yw gwefan archifau.cymru yn dal nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am ein hymwelwyr.

Dadansoddeg PostHog 

Mae archifau.cymru yn defnyddio Dadansoddeg PostHog ar ei gwefannau er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol i greu adroddiadau ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio ein gwefannau. Bydd yr adroddiadau hyn yn eu tro yn cael eu defnyddio i lywio datblygiadau newydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu drwy ‘cookies’, sef ffeiliau testunol sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol sy’n anhysbys (gan gynnwys cyfeiriad IP) – sydd wedyn yn cael ei hanfon at PostHog. Ceir mwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir gan Ddadansoddeg PostHog ar wefan PostHog.

Ni fydd archifau.cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir er mwyn ceisio adnabod ei defnyddwyr ar-lein, nac yn caniatáu i drydydd person wneud hynny. Ni fydd PostHog yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan PostHog. Ni fydd archifau.cymru, na PostHog yn creu cyswllt, nac yn ceisio creu cyswllt, rhwng cyfeiriad IP a gwybodaeth adnabod unigolyn.

Polisi Tynnu

Wrth ychwanegu cynnwys at y wefan hon, mae Archifau Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw deunydd yn torri ar hawliau unigolyn. Serch hynny, rydym yn derbyn y gallai deunydd a gyhoeddir ar-lein gynnwys, trwy amryfusedd, ddeunydd â hawlfraint, gynnwys data personol sensitif, neu’n gynnwys a allai gael ei ystyried yn aflan neu’n enllibus.

Os credwch chi mai chi yw perchennog hawlfraint unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ac nad ydych chi’n rhoi caniatâd i ddefnyddio’ch deunydd yn unol â’n telerau ac amodau, neu os credwch chi fod deunydd ar y wefan yn aflan neu’n enllibus, rhowch wybod i ni.