Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

Rydym yn casglu cofnodion hanesyddol mewn perthynas â Gogledd Ddwyrain Cymru, ac yn eu cadw nhw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cadw ystod eang o gofnodion gwreiddiol, gan gynnwys cofrestrau bedyddio, claddu a phriodasau, papurau newydd, lluniau, mapiau, cofnodion llys, gweithredoedd, cyfeirlyfrau masnach a mwy. Mae ein cofnodion yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif i’r unfed ganrif ar hugain.

Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg), Yr Hen Reithordy, Penarlâg CH5 3NR

Oriau Agor

Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau: 09.30 – 16.30

Eitemau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

  1. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

    Manylyn o Freinlythyrau goliwiedig, Mari I, 1554

      Yn NEWA, Penarlâg, rydym yn cadw’r Breinlythyrau goliwiedig hardd hyn, a gyhoeddwyd gan Mari I ar 9 Mai 1554. Mae’n ymwneud â thir yn ‘Grauntesmore by the sea, Flintshire’; a Garnethwen ym mhlwyf Ysceifiog, Sir y Fflint.  Dyfarnwyd tiroedd yn Sir y Fflint i John David ap Griffyn ap Llewelen, uchelwr, am y swm o £101-13s-4d, a danysgrifiwyd gan Syr John Godsalve fel clerc y sêl.  Mae wedi’i lofnodi uwchben y llythyr cychwynnol: ‘Marye the quene’, ac mae’n cynnwys portread trawiadol o Mari, ei gwallt rhydd yn cynrychioli ei statws fel morwyn, wedi’i gorseddu ar orsedd enfawr o liw ocr gyda choron, pellen a theyrnwialen. Mae ymyl uchaf y ddogfen wedi’i haddurno â dyfeisiau herodrol gan gynnwys arwyddlun pomgranad a rhosyn y Tuduriaid o Mari ar dir o flodau.  Mae sêl fawr Mari I yn hongian ar linynnau o sidan gwyrdd ac edau arian ar waelod y ddogfen. Roeddem yn ffodus iawn o dderbyn grant gan Gronfa Grantiau Prynu yr MLA/Amgueddfa Victoria & Albert i brynu’r eitem wych hon yn 2012; rhoddwyd grant pellach hefyd gan Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, Llundain.

    1. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

      Cofnodion Cwmni Pantomeim Amatur Jack Evans, Glannau Dyfrdwy

      Mae cofnodion Cwmni Pantomeim Amatur Jack Evans yn cael eu cadw yn NEWA, Penarlâg. Cwmni theatr lleol deinamig a oedd yn gweithredu rhwng 1929 a 1942, perfformiasant yn helaeth yn ardal Gogledd-Ddwyrain Cymru, gan deithio o Gei Connah, Shotton, Yr Wyddgrug, Treffynnon, Bagillt, Prestatyn a’r Rhyl.  Sefydlwyd y Cwmni Pantomeim gan Jack Evans o Shotton, gyda chast mawr wedi’i dynnu o bobl leol yn ardal Gogledd Cymru. Ymunodd â’r teulu Noakes, a oedd â phrofiad sylweddol blaenorol yn y theatr. Crëwyd cyswllt cryfach rhwng y ddau deulu pan briododd Jack â Winifred Noakes ym 1933. Roedd Jack Evans yn awdur, yn gynhyrchydd, yn gyfarwyddwr ac yn actor rhan-amser yn y Cwmni Pantomeim a Winifred yn chwarae prif rannau ym mron pob un o’r cynyrchiadau. Roedd llawer o aelodau’r cast yn byw yn Fron Road a’r strydoedd cyfagos yng Nghei Connah; roedd eraill yn gweithio i Waith Dur Shotton a ffatrïoedd tecstilau Courtaulds. Ar ôl llawer o berfformiadau clodwiw a chynyrchiadau teithiol, galwyd aelodau’r cast i’r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a nododd hynny, yn anffodus, ddiwedd cyfnod i gwmni pantomeim amatur Jack Evans.

    2. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

      Cofnodion Cartref Plant St Clare (RC), Pantasaph ac Ysgolion Cysylltiedig

        Mae cofnodion Cartref Plant St Clare a’r ysgolion a fynychwyd gan drigolion y cartref plant, yn cael eu cadw yn NEWA, Penarlâg. Roedd yn ofynnol i blant fod o’r ffydd Gatholig ac yn aml roeddent yn dod o leoedd pell fel Lerpwl a Manceinion.

        Ym 1904, cafodd y chwiorydd Vahey, Esther 10 oed, Agnes 7 oed ac Ellen 5 oed, eu derbyn i’r ysgol yn Chwitffordd, fel plant o Gartref Plant St Clare. Roeddent yn blant i John a Jane Vahey o Benbedw, teulu Catholig. Pan ddaeth y merched i’r Cartref Plant, roedd eu rhieni yn dal yn fyw, felly nid oeddent yn amddifaid. Fodd bynnag, mae erthyglau papur newydd yn datgelu stori drist sy’n dangos pam nad oedd modd iddynt aros yn y cartref teuluol mwyach. Roedd eu tad, John Vahey, wedi ymosod yn greulon ar eu mam ac yn wynebu carchar. Yn ddiweddarach aeth i’r Tloty ac yn anffodus bu farw eu mam ym 1915, o bosibl heb weld ei phlant eto. 

        Gall pori drwy’r cofrestrau derbyn a chofnodion eraill ddatgelu llawer o straeon am fywydau plant a leolwyd yn y cartref plant, eu cefndiroedd teuluol, eu hamgylchiadau a’r digwyddiadau a arweiniodd at eu rhieni yn eu rhoi mewn sefydliad ymhell o’u cartrefi a’u teuluoedd.

      1. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

        Fel rheol, lluniwyd mapiau ystâd gan syrfewyr proffesiynol a gyflogwyd gan dirfeddianwyr, a oedd eisiau cofnod o union faint y tir yr oeddent yn berchen arno; lleoliad y ffiniau; a gwerth eu tir. I’r ymchwilydd, maent yn ffynonellau gwybodaeth amhrisiadwy ac yn aml maent yn dod law yn llaw â llyfr cyfeirio a all roi manylion pellach am denantiaid, enwau caeau a mathau o ddefnydd tir mewn ardal leol.

          Mae’r enghraifft hardd hon o fap ystâd o’r 18fed ganrif yn dangos tiroedd sy’n gorwedd ym mhlwyf Northop, Sir y Fflint, sy’n perthyn i’r Gwir Anrhydeddus Other, Iarll Plymouth, ym 1717. Other Windsor oedd 2il Iarll Plymouth, a wasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych a Sir y Fflint rhwng 1713 a 1714.  Ym 1705, priododd ag Elizabeth Whitley, merch teulu amlwg o Sir y Fflint o Aston Hall, Penarlâg. Trosglwyddwyd y tiroedd a’r eiddo a oedd yn perthyn i Elizabeth i’w gŵr ar ôl priodi, felly roedd yn berchen ar ystadau sylweddol yn Sir y Fflint gan gynnwys y tiroedd a ddangosir ar y map hwn, yn Northop. Mae’r manylder yn fân iawn, gyda darluniadau o dai, adeiladau fferm ac eglwys Santes Eurgain a Sant Pedr yng nghanol y pentref. Mae manylder haen aur cyfoethog ar yr arysgrifen a’r rhosyn cwmpawd yn dangos nas arbedwyd unrhyw gost wrth greu’r map, a luniwyd gan y syrfëwr William Burnham o Wallington, Swydd Rydychen.

        1. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

          Llyfr Ryseitiau John Dawson

          Cafodd y llyfr ryseitiau bychan hwn ei ysgrifennu â llaw gan John Dawson, ffermwr o Gronant, Sir y Fflint yn yr 1800au. Ar adeg pan nad oedd milfeddygon yn bodoli, roedd ffermwyr yn dibynnu ar ddulliau gwerinol profedig i iachau eu da byw, a oedd wedi’u pasio ymlaen iddyn nhw gan ffrindiau a chymdogion. Mae’r llyfr yn cynnwys cyngor ar sut i drin salwch mewn anifeiliaid, gyda dulliau diddorol o ‘iachau’. I iachau clefyd ‘dŵr coch’ mewn gwartheg, mae’n awgrymu rhoi peint o jin i’r anifail. Mae meddyginiaethau hefyd i gael gwared ar glefydau ar gnydau fel gwenith penddu (‘Smut in Wheat’) ac awgrymiadau ar sut i yrru gwlithod dinistriol i ffwrdd!