Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau yn gofalu am drysorau Prifysgol Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi ymchwilwyr o bob math, trwy ddarparu mynediad at gasgliadau ac arbenigedd yn ein hystafell ddarllen ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os ydych chi’n ymchwilydd profiadol, neu’n ymweld ag archif am y tro cyntaf – byddwn yn hapus i’ch croesawu. Yn ogystal â’n casgliadau unigryw, rydym yn gartref i stiwdio ddigido fodern, casgliadau ar-lein a chyfleusterau dysgu. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda staff y Brifysgol a thu hwnt i roi bywyd newydd i’n casgliadau, a ‘rydym yn croesawu ymholiadau gan brosiectau academaidd, rhyngwladol, creadigol a chymunedol.

Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Rhodfa Colum, Caerdydd CF10 3EU

Oriau Agor

I archebu lle yn yr ystafell ddarllen, neu i wneud cais am ddeunydd: anfonwch ebost at specialcollections@caerdydd.ac.uk

Eitemau Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

  1. Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

    Llawysgrif ‘Blenheim Oranges’ gan Edward Thomas.

    Copi llawysgrif o waith y bardd a’r beirniad Edward Thomas. Yn enwog am ei waith ar fyd natur, mae ei archif yn llawn esiamplau amrywiol o’i waith, a chofnodion o’i deithiau ym myd natur.

    Mae’r archif lenyddol hon yn un esiampl o’r casgliadau personol sydd dan ofal y gwasanaeth, sydd hefyd yn cynnwys papurau ffigyrau o fyd gwleidyddiaeth, iechyd, newyddiaduraeth, cerddoriaeth a thu hwnt.

  2. Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

    Mae’r llyfr bach handi hwn yn rhoi canllaw i ni ar sut i gyfathrebu’n barchus mewn Cymraeg a Saesneg. Boed yn fusnes, cyfeillgarwch neu ramant, mae’r llyfr hwn yn rhoi templed dwyieithog (neu “duoglott”) sy’n rhoi cyngor i chi ar sut i sgrifennu’r llythyr perffaith.

    Mae’r tudalennau yn frith o olion inc, sy’n dangos efallai i gyn berchennog fynd ati i ddilyn y cyngor rhwng y tudalennau.

  3. Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

    Fasciculus Temporum – un o ‘bestsellers’ cyntaf y byd, o 1474, sy’n olrhain hanes y ddaear. Gelwir y genhedlaeth gyntaf hon o lyfrau wedi eu hargraffu yn ‘incunabula’ – gair Lladin am ‘wedi ei lapio mewn cadach’ neu ‘ddechreuad’.

    Cyhoeddwyd yn yr Almaen, mae’n defnyddio diagramau, llinellau amser a thestun i ddweud hanes y byd i gyd, o safbwynt Cristnogol. Roedd y copi hwn ar un adeg yn rhan o lyfrgell bersonol y Tywysgo Augustus Frederick, Dug Susse.