Tu Ôl i’r Llen: Archwilio Archifau Theatr yng Nghymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) wedi derbyn grant consortiwm Datgelu Archifau / Archives Revealed gan yr Archifau Cenedlaethol ar gyfer ein prosiect ‘Tu ôl i’r Llen: Archwilio Archifau Theatr yng Nghymru’. Nod y prosiect hwn yw codi’r llen ar gasgliadau archif sydd gyda’i gilydd yn tystio i ddatblygiad perfformiadau theatrig a cherddorol Cymru o ganol yr 20fed ganrif hyd heddiw. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd rhai casgliadau theatr arwyddocaol iawn yn cael eu catalogio a bydd amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu yn digwydd. Mae hwn yn brosiect partneriaeth, dan arweiniad Archifau Gwent, gydag Archifau Ceredigion, Archifau Morgannwg, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru.

Trwy waith catalogio, bydd y prosiect hwn yn gwneud casgliadau archif mawr sy’n canolbwyntio ar gwmnïau a lleoliadau theatr ranbarthol allweddol yn fwy hygyrch. Daw’r pum casgliad archif craidd o Theatr Clwyd, Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Theatr Gwynedd, Theatr Gwent, a Chasgliad Mike Pearson. Mae’r rhain i gyd yn tystio i ddimensiynau gwahanol ond ategol o ddatblygiad theatr a pherfformio yng Nghymru. Bydd y prosiect hefyd yn catalogio dau gasgliad ychwanegol: casgliad archif Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, a chasgliad portffolio o Archifau Ceredigion, sy’n cynnwys rhaglenni ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau yn Aberystwyth.
Drwy gatalogio’r casgliadau hyn, a darparu mynediad ar-lein drwy gymhorthion canfod cynhwysfawr, bydd pobl yn gallu adnabod, cyrchu a defnyddio’r wybodaeth sydd ynddynt yn well. Bydd cyfleoedd hefyd i gymunedau lleol, gwirfoddolwyr, myfyrwyr, a phobl o bob oed gyfrannu ac ymgysylltu â’r archifau hyn drwy ystod o weithgareddau wedi’u cynllunio, gan gynnwys datblygu arddangosfeydd, cynnwys ar-lein, gweithdai a hanesion llafar. Bydd gwasanaethau archif ledled Cymru yn gallu dod ynghyd i adrodd stori theatr a pherfformio yn eu cymunedau lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Dywedodd Dr Lisa Snook, Cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwe gwasanaeth ledled Cymru gydweithio a datgloi’r straeon yn y casgliadau hynod ddiddorol hyn. Mae’r casgliadau’n amrywiol, ond gyda’i gilydd maent yn dangos arloesedd, llwyddiannau cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal ag effaith cyfyngiadau cynyddol ar gyllid ar gyfer y celfyddydau. Edrychwn ymlaen at ddarganfod mwy a rhannu’r casgliadau gyda’n cymunedau”.


