Mae archifdai ar draws Cymru yn casglu a chadw cofnodion ein bywydau bob dydd yn ddiogel, fel eu bod ar gael nawr ac yn y dyfodol

Cyflwyniad i Archifau

Mae archifau yn gofnodion gwerthfawr sy’n adrodd stori ein gorffennol. Mae gwasanaethau archif yng Nghymru yn diogelu ac yn amddiffyn ein cof cyfunol, ac yn ein helpu i ddathlu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Y rhain yw’r ffeithiau, y dystiolaeth a’r mewnwelediadau a ddefnyddiwn i ddarganfod, dehongli a deall hanes.

  • Mewn archifau ledled Cymru, mae straeon yn aros i gael eu darganfod. Straeon am ein cyndeidiau, ein cymunedau, y lleoedd lle’r ydym wedi byw neu yr hoffem eu galw’n gartref.

  • Mae defnyddio archifau yn brofiad gwych. Mae pob eitem yn werthfawr ac yn unigryw, ac yn gysylltiad uniongyrchol â’r gorffennol. Wrth ddisgrifio archifau, dywedodd un o’n defnyddwyr eu bod fel ‘byd o bosibiliadau’.

  • P’un a yw’n fater o fynd i ddigwyddiad mewn archif, cydweithio ar brosiect gyda ni, neu ddod yn wirfoddolwr, mae croeso i bawb.

Mae archifdai ym mhob cornel o'r wlad

Porwch y rhestr gyfan o ein haelodau yn ogystal â map i'ch helpu canfod eich archif agosaf.

Porwch y map