Archwiliwch Eich Archif: Lleisiau tawel yn cael eu clywed

Emma Towner, Archifydd Cynorthywol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ar hyn o bryd dwi’n archifo’r archif Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Ranbarth Gogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1925, cam mlynedd yn ôl. Ers dechrau gweithio ar y casgliad hwn, rwy’n meddwl llawer am sut y byddai fy mywyd wedi bod 100 mlynedd yn ôl. Gan dyfu i fyny mewn teulu’r dosbarth gweithiol, bydd yna lawer o gyfleoedd na fydd ar gael i rywun fel fi. Mae’n annhebygol y byddwn wedi cael addysg dda, ac roedd siawns gryf y byddwn wedi gweithio mewn gwasanaethau domestig, ac yn bendant ni fyddwn wedi gallu pleidleisio.

Cyn Deddf Diwygio 1832, yr unig bobl a oedd â’r hawl i bleidleisio oedd nifer fach o ddynion cyfoethog, perchnogion eiddo a’r rhai wnaeth dalu drethi penodol. Ar ôl y Ddeddf, ehangodd i gynnwys dynion a oedd yn rhentu eiddo am £10 y flwyddyn neu fwy, tirfeddianwyr a ffermwyr tenant, ond roedd menywod a dynion y dosbarth gweithiol wedi’u heithrio. Dros y 52 mlynedd nesaf, roedd newidiadau yn y Ddeddf yn golygu y gallai mwy o ddynion bleidleisio, ond roedd angen iddynt fodloni gofynion eiddo o hyd, ac oedd hyn dal i eithrio mwyafrif dynion y dosbarth gweithiol, a phob menyw.

Daeth newid mawr gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 – gallai pob dyn 21 oed a throsodd bleidleisio, dim gofyniad eiddo. Gallai menywod bleidleisio am y tro cyntaf, fodd bynnag, roedd yn rhaid iddynt fod yn 30 oed neu’n hŷn, ac roedd e’n dro nhw i fodloni rhai gofynion eiddo. Roedd yn gam mawr i’r dosbarth gweithiol, ond nid i fenywod y dosbarth gweithiol fel fi. Nid oedd gen i’r yr hawl i bleidleisio o hyd. Byddai’n ddegawd arall cyn y gallwn farcio fy mlwch pan ymestynnodd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 y bleidlais i bob menyw dros 21 oed ym 1928.

Er y byddai’r dosbarth gweithiol wedi cael ei dawelu o ran pleidleisio, byddent wedi gallu ychwanegu eu lleisiau at achosion trwy lofnodi deiseb.

Dyma gopi o ddeiseb a anfonwyd at Iarll Penfro, mae’n anghydfod ynghylch pwy fydd yn talu am atgyweiriadau pont Caerdydd, y trigolion Gaerdydd neu Sir Forgannwg. Mae’n bosib bod yr enwau’n cynnwys rhai o’r dosbarth gweithiol, na allent bleidleisio ym 1578, ond a allent lofnodi deisebau.

Enwau wedi'u hysgrifennu â llaw ar femrwn.
Copi o ddeiseb wedi’i chyfeirio at Iarll Penfro.
(Penrice & Margham 2770:- 1578). Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llofnodwyd y ddeiseb nesaf gan ddynion y dosbarth gweithiol. Mae ganddi ychydig mwy o wybodaeth, oedran, cymeriad a theulu’r a lofnododd. Nodir pwy oedd yn berchen dir. Er na fyddent wedi gallu pleidleisio o gwmpas 1810, mae’n bosibl erbyn 1867, y gallai’r rhai a oedd yn berchen ar dir fod wedi bodloni’r gofyniad eiddo i allu pleidleisio.

Enwau wedi'u hysgrifennu â llaw ar femrwn.
Rhestr o Chwarelwyr sydd wedi llofnodi’r ddeiseb.
(Penrice & Margham 4131:- 1810×1813). Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gan y ddeiseb nesaf enwau menywod ynghyd ag enwau’r dynion. Er bod yr ‘x’ achlysurol yn nodi nad oedd rhai o drigolion plwyf Aberriw yn gallu llofnodi eu henw. Cyfeiriwyd y ddeiseb at Dŷ’r Cyffredin gan ddangos eu teimladau tuag at y Mesur Ataliol, a’u dymuniad i Dŷ’r Cyffredin ei wrthod.

Rhestr o enwau wedi'i hysgrifennu â llaw ar femrwn.
Deiseb wedi’i llofnodi gan drigolion plwyf Aberriw wedi’i chyfeirio at Dŷ’r Cyffredin yn gweddïo ar y Tŷ i wrthod y Mesur Ataliol. (Glansevern 13337:- 1893). Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Un ddeiseb rwy’n gobeithio y byddwn wedi’i llofnodi yw Deiseb Heddwch Menywod. Mae’n ddeiseb enwog sydd bellach ag arddangosfa barhaol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe’i llofnodwyd gan 390,296 o fenywod a oedd yn dymuno dim mwy o ryfel. Ymhlith y llofnodion, mae llofnod fy Hen Famgu.

Llofnodion menywod ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru. Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Rwy’n eithaf siŵr wnaeth hi ei henw ei hun, gan fod ei llawysgrifen yn debyg iawn i lawysgrifen fy mam. P’un a fyddwn wedi gallu ysgrifennu fy enw ar y ddeiseb ai peidio, neu a oedd rhaid i mi farcio ag ‘x’ yw mater hollol wahanol, a blog ar gyfer y dyfodol. Beth bynnag, rwy’n gobeithio na fyddai fy llais wedi’i dawelu.