Trychineb Aberfan 1966

Vicky Jones, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Mae ffotograffau, llythyrau, papurau pwyllgor a deunyddiau archifol eraill wedi cael eu digideiddio a’u casglu at ei gilydd i greu adnodd ar-lein, er mwyn i bobl allu archwilio a deall yn well yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau, y misoedd a’r blynyddoedd yn dilyn Trychineb Aberfan ym 1966.

Drwy gasgliadau archifol, mae’r prosiect hwn – a ariennir gan Lywodraeth Cymru – yn adrodd hanes Trychineb Aberfan a’r ffordd ymatebodd y gymuned i drasiedi o’r fath. Dewiswyd sawl eitem o gasgliadau Archifau Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys casgliaday Cronfa Trychineb Aberfan, Cymdeithas Rhieni a Thrigolion Aberfan, a Phapurau Erastus Jones. 

©Hawlfraint a delwedd: Philip Townsend

Ar 21 Hydref, 1966, tua 9yb ar ddiwrnod olaf y tymor yn Ysgol Gynradd Pantglas, fe wnaeth tomen rhif 7 yng Nglofa Dyffryn Merthyr ddymchwel ar ôl dechrau symud yn gynharach yn y bore oherwydd yr ansefydlogrwydd o’r ffynnon danddaearol. Arweiniodd hyn at y gwastraff glo yn llithro i’r pentref islaw, gan hylifo yn y broses. Gan symud ar gyflymder uchel, dinistriodd y tirlithriad sawl tŷ a tharo ochr Ysgol Iau Pantglas. Bu farw 144 o bobl, ac roedd 116 ohonynt yn blant. Cafwyd ymdrech achub enfawr gan y gymuned leol a phobl ledled Cymru i achub y rhai oedd yn gaeth o dan y malurion. Er bod llawer wedi cael eu hachub, ni chafwyd hyd i unrhyw oroeswyr ar ôl 11yb.

Gallwch weld yr adnoddau ar dudalen wefan Trychineb Aberfan 1966 Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/archifau/trychineb-aberfan-1966