Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru rydym yn rhannu rhai o gasgliadau cerddoriaeth boblogaidd yr 20fed ganrif o’r Archif Gerddorol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd Yr Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017, er mwyn casglu, a hyrwyddo defnydd o, archifau a llawysgrifau cerddorol yn y Llyfrgell.
Y Blew
Band roc o Gymru oedd ‘Y Blew’ a sefydlwyd ym 1967. Nhw oedd y band roc cyntaf i ganu yn Gymraeg. Mae’r casgliad o bapurau’r grŵp ‘Y Blew’ yn cynnwys llythyron yn ymwneud â’u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o’r grŵp, hanes sefydlu’r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae’r Blew wedi ei gael ers iddynt chwalu. NLW ex 2219.


Dafydd Iwan
Yn ddiweddar mae Yma o Hyd wedi dod yn anthem answyddogol ar gyfer Pêl-droed Cymru, a chyrhaeddodd Rhif 1 yn siartiau iTunes ym Mehefin 2022. Fe’i hysgrifennwyd gan Dafydd Iwan yn 1981, canwr a gwleidydd cenedlaetholgar a daeth i enwogrwydd yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r casgliad Caneuon Dafydd Iwan yn cynnwys copïau holograff o eiriau i ganeuon Dafydd Iwan gan gynnwys ‘Carchar’ (‘Mae Rhywun yn y Carchar’), ‘Yr Hawl i Fyw’, ‘Magi Thatcher’ (fersiwn cyntaf), ‘Yma o Hyd’, ‘Y Chwe Chant a Naw’ a ‘Ciosg Talysarn’, Hawl i Fyw. NLW ex 1935:

Y Trwynau Coch
Roedd Y Trwynau Coch yn cael ei ystyried fel un o’r bandiau Cymraeg gorau cyfnod pync. Mae’r casgliad yn cynnwys papurau Y Trwynau Coch. [1978] gan cynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito’s yng Nghaerdydd a’r amodau, ac ychydig o dorion o’r ‘Cymro’ yn ymwneud â’r grŵp. NLW ex 2617.


LP Y Trwynau Coch ‘Rhedeg rhag y Torpidos’ 1980 Dyluniwyd gan Meirion Wyn Jones.
Super Furry Animals
Dyma gasgliad o bapurau a gasglwyd a threfnwyd gan Dr Carl a Dorothy Clowes, rhieni Dafydd Ieuan a Cian Ciarán, aelodau o’r grŵp cerddoriaeth Indi/Tecno/Roc-seicoledig Cymreig, y Super Furry Animals (Anifeiliaid Blewog Anhygoel). Ar 15 Mai 2000 rhyddhawyd yr albwm ‘Mwng’ ar eu label eu hunain ‘Placid Casual’. Hwn oedd yr albwm Cymraeg a werthodd y mwyaf o gopïau erioed. Mae’r Papurau Super Furry Animals (Carl Clowes), 1991-2016 yn cynnwys toriadau o erthyglau papur newydd, cyfweliadau, ffotograffau a hysbysebion am y grŵp, ynghyd ag eitemau am aelodau’r band, a bandiau Cymreig cysylltiedig.


Yr Archif Gerddorol Gymreig
Steve Eaves
Casgliad o bapurau, 1982-1983; caneuon, barddoniaeth a llythyron yn ymwneud â geiriau caneuon gwahanol grwpiau Cymraeg diwedd y 1970au a dechrau’r 1980au, wedi eu crynhoi gan Steve Eaves. Caneuon yn y gyfrol Y Trên Olaf Adref, a gyhoeddwyd ym 1984. NLW ex 2133.
Posteri
Mae gan y Llyfrgell lawer o bosteri o gigs a chyngherddau. Derbyniwyd llawer o bosteri yn ddigidol yn dilyn apêl #poster2020 gan gynnwys posteri a ddyluniwyd gan Meirion Wyn Jones a dylunwyr eraill, a threfnwyr cyngherddau. Ymhlith y casgliad posteri amlycaf a gedwir yn y Llyfrgell ar hyn o bryd mae casgliad Gwilym Tudur. Mae’n cynnwys cyfres helaeth o dros 120 o bosteri, sy’n wleidyddol eu natur ac yn hyrwyddo gigs a chyngherddau hanesyddol Cymreig.




Poster ar gyfer gig Tŷ Gwydr, Llwybr Llaethog, a Datblygu, 1991 gan Marc Lugg,
Poster i Roc Ystwyth, Aberystwyth,
Poster ar gyfer gig Ail Symudiad yn Aberystwyth, 1983.
Casgliad Ffansîn Rhys Williams
Derbyniwyd y casgliad hwn o 16 o ffansîns cerddoriaeth pop Gymreig, 1982-1990, gan Rhys Caerdydd (Rhys Williams), a oedd yn gyfrifol am y wefan Ffansîn Ynfytyn. Ymhlith y copïau gwreiddiol o’r ffansins ar gyfer y casgliad cenedlaethol mae: Amser Siocled, Yn Syth o’r Rhewgell , Llmych / Chymll / Ychmll / Hymllc, Dyfodol Dyddiol, Ish, Groucho neu Marks, Llanast, Rhech, Gwyn Erfyl yn y Glaw, Cen ar y Pen ac ANKST 03. Chwiliwch Gasgliad Ffansîn Rhys Williams


Dilynwch yr Archif Gerddorol Gymreig ar Trydar: @CerddLlGC
I ymholi am eitemau cerddorol penodol yng nghasgliadau’r Llyfrgell, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymholiadau