Pob dydd Iau, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi blog newydd , fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau. Gwahoddir unigolion i ddewis eu hoff fapiau o gasgliad y Llyfrgell, ac wythnos yma dyma tro Dr. Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, a ddwewisodd Map 17eg ganrif o Whitlera, Sir Gaerfyrddin. Mae’r map wedi’i fraslunio ar ddalen sengl o bapur sy’n dangos ‘the mease [h.y. tŷ] of Whitlera’, ynghyd ag adeilad cyfagos a’r tiroedd gerllaw.
Cliciwch yma i ddarllen blog Shaun, neu dilynwch y dolenni isod i ddarganfod pam dewiswyd y mapiau canlynol fel ffefrynnau hefyd.
Huw Owen, cyn geidwad darluniau a mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
“Roedd y Cambriae Typus wedi’i ysgythru’n gain, yn mesur 456 x 348mm, a’r raddfa o 1 modfedd i 8.2 milltir i’w gweld yn y gornel chwith isaf. Ymhlith y nodweddion addurnol eraill oedd y teitl, y llythrennu a llun o long ag iddi dri hwylbren ym Mae Ceredigion, a darluniad o greadur y môr ger Abergwaun.”
Darllenwch mwy yma
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Linda Tomos
“Trefnwyd y mapiau fel sgrôl gyda phob stribyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol megis bryniau ac afonydd, eglwysi ac ystadau, ac yn nodi a oedd gwrychoedd yn amgáu’r ffordd neu beidio. Roedd tirnodau lleol, tafarndai, pontydd a rhydau yn gymorth i sicrhau fod teithwyr ar y trywydd iawn.”
Darllenwch mwy yma
Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth
“Rydw i wastad wedi cael fy nghyfareddu gan fapiau sy’n ceisio darlunio daearyddiaeth yr iaith Gymraeg. Un o’r rhai cyntaf i geisio gwneud hynny oedd y map hwn gan JE Southall, a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad o 1891.”
Darllenwch mwy yma
Awdur, darlledwr a ffan o fapiau Mike Parker
“I ddyfrio’r dinasoedd oedd yn tyfu, gwelodd diwedd yr oes Fictorianaidd Lerpwl yn adeiladu Llyn Efyrnwy a chynllun uchelgeisiol Birmingham yng Nghwm Elan. Penderfynodd Llundain hefyd eu bod yn dymuno cael cyfran o ddŵr Cymru.
Byddai’r cynllun hwn a anghofiwyd i raddau helaeth, y manylwyd arno yn gywrain yn y mapiau hyfryd hyn, wedi newid canolbarth Cymru yn sylfaenol am byth.” Darllenwch mwy yma
Gallwch ddilyn y blog #CaruMapiau yma: #CaruMapiau