Mae Diwrnod Cenedlaethol Te yn cael ei dathlu bob blwyddyn ar yr 21ain o Ebrill. Dyma hysbyseb ar gyfer Ishmael Roberts, Melinydd, Gwerthwr Te a Groser o Lane End ym Mwcle, canol y 19eg Ganrif o casgliadau Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDDC).

Gyda mwy na 30 o grochendai, gweithfeydd brics, a chyflenwad helaeth o lo o’r 30 o lofeydd lleol, roedd Bwcle, Sir y Fflint, yn bwerdy diwydiannol llwyddiannus, gyda Lane End yn uwchganolbwynt y gweithgareddau. Roedd y ffyniant diwydiannol hwn yn cefnogi diwydiannau ategol eraill, fel busnes Ishmael Roberts a oedd yn delio mewn te a melino blawd. Nid ydy’r casgliad yn datgelu mwy am Ishmael ei hun, ond os ydych chi am wneud ymchwil i hanes y gŵr bonheddig hwn fe allech chi ddefnyddio Cyfeiriaduron Masnach a’r Cyfrifiad i adeiladu llun o fywyd ef a’i deulu.
Yn wreiddiol, mewnforiwyd te o Tsiena ac felly roedd y ddiod ddrud yma ddim ond ar gael i’r cyfoethog. Wrth i fewnforion newydd o India ddod yn rhatach, daeth te yn fwy fforddiadwy a chafodd ei farchnata fel diod iach, gan ddod yn rhan o ffordd o fyw ym Mhrydain, a hoff ddiod y genedl!
Nid oes gennym ddyddiad i’r hysbyseb hon, ond mae’r ffaith bod Ishmael yn galw ei hun yn ‘Deliwr Te’ yn awgrymu gwerth uchel i’r nwyddau a werthwyd. Mwynhewch eich paned heddiw ar #DiwrnodCenedlaetholTe!
Bridget Thomas, Cynorthwyydd Archif,
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru