Mae Colin Sheady yn un o’n Llysgenhadon Archifau i Gymru 2019. Yn yr erthygl yma, mae Colin yn esbonio sut y dechreuodd ymddiddori mewn archifau, a sut arweiniodd hyn at rôl wirfoddoli yn Archifdy Sir y Fflint.

Flintshire Archives at HawardenGes i gyflwyniad i Archifdy Sir y Fflint ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae hanes yr ardal leol a’i thrigolion wedi fy ymddiddori erioed, ond pan ofynnodd fy wyres am fy help gyda phrosiect ysgol ar ein coeden teulu penderfynais ymchwilio hanes lleol yr ardal.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o gofnodion a gwefannau ar-lein, roeddwn i’n dechrau gweld y darnau o’n hachau yn dod at ei gilydd, ond gyda nifer o fylchau yn y wybodaeth. Es i at yr Archifdy lleol yn Hawarden am gymorth i ddod o hyd i’r darnau coll o’r pos. Roeddwn wrth fy modd gyda’r lefel y sgil a’r proffesiynoldeb y staff, a helpodd fi i ddarganfod enwau, cyfeiriadau a gwybodaeth arall a fyddai fel arall wedi eu colli i amser wrth i mi chwilio.

Gadawodd y gwaith a’r ymchwil – ac yn sicr canlyniad prosiect fy wyres – argraff barhaol arnaf. Pan ddaeth yn amser imi ymddeol roeddwn yn gwybod fy mod eisiau cysylltu gyda Archifdy Sir y Fflint i gynnig fy amser fel gwirfoddolwr.

Cefais wahoddiad i gymryd rhan mewn prosiect gyda Mark Allen, Cadwraethwr Archifdy Sir y Fflint, i amddiffyn cyflwr miloedd o ddogfennau a chofnodion sy’n ymdrin â chanrifoedd o hanes lleol Sir y Fflint trwy wneud blychau pwrpasol.

Unwaith y daeth y tasg yma i ben, cefais cynnig gan Steve Davies, un o’r Archifwyr, i barhau â’m gwaith yn yr Archifdy trwy nodi manylion ceisiadau cynllunio Sir y Fflint sydd wedi’u storio yn yr archifau. Roedd y cofnodion yn dyddio’n ôl cyn belled â chanol y 19eg Ganrif ac yn cwmpasu’r rhan fwyaf o drefi yn y sir, gan gynnwys rhai sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhan o Sir Ddinbych.

Mae’r cofnodion hyn yn hynod o ddiddorol. Maent yn croniclo’r hanes trefi’r ardal, wrth iddynt dyfu o fwrdeistrefi bach i gymunedau mwy ac adnabyddus, wedi’u llenwi â gwasanaethau a chyfleusterau a helpodd i gynnal y cynnydd yn y boblogaeth.

Mae’r gwaith rwy’n ei wneud fel gwirfoddolwr yn hynod o werth chweil i mi. Rwy’n cael darganfod enwau teuluoedd a fyddai fel arall wedi cael eu hanghofio, mae manylion digwyddiadau sylweddol a helpodd i siapio’r dirwedd ar gael yn rhwydd ar flaenau fy mysedd, ac mae cynnydd a chwymp diwydiannau yn digwydd o flaen fy llygaid.

Rwy’n ei chael hi’n anrhydedd mawr gweithio gyda’r cofnodion hyn a helpu i groniclo hanes fy ngwlad, ac wrth wneud hynny, dod yn rhan sylweddol o’r union beth rydw i wedi dod i garu cymaint.

Flintshire Archives at Hawarden

Os hoffech wirfoddoli yn eich archifdy lleol, gallech ddod o hyd i’r manylion cyswllt yma: Cysylltwch â Ni

Leave a Reply