Mae Archifdy Sir y Fflint ac Archifau Sir Ddinbych yn edrych ar uno i greu gwasanaeth archif ar y cyd mewn Canolfan Archifau newydd. Bydd yn cynnwys ystorfa ar gyfer deunydd archif ynghyd ag ystafelloedd ymchwil cyhoeddus, gofod arddangos, a chyfleusterau addysg. Mae staff y ddau wasanaeth wedi bod yn cyd-weithio ar amryw o brosiectau trwy gydol y flwyddyn.
Derbyniodd staff y ddau wasanaeth hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dementia ym mis Chwefror a roddwyd gan Gynghorydd Dementia o Gymdeithas Alzheimer’s Cymru (gweler y ffotograff isod). Roedd hon yn sesiwn ddiddorol a phryfoclyd iawn, a gododd ymwybyddiaeth staff o sut i gefnogi pobl â dementia, a’u gofalwyr, yn well. Yna roedd cyfle i staff y ddau wasanaeth i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd trwy fynychu cyfarfod mis Ebrill y grŵp Datblygu Dementia yn Ifanc (Young Onset Dementia group) a gynhaliwyd yn y Cob a Phen yn y Rhyl. Gan fod Rhyl yn rhan o Sir y Fflint cyn 1974, ond bellach yn Sir Ddinbych, mynychodd aelod o staff o’r ddau wasanaeth gyda chopïau o ffotograffau, erthyglau papur newydd, hysbysebion cyfeirlyfr masnach a mapiau a ddewiswyd o gasgliadau pob swyddfa. Cynhyrchodd yr hen ffotograffau a’r mapiau hyn lawer o drafoddaeth, a sbardunodd llawer o atgofion.
Gan mae 2019 yn coffáu 80 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd, lansiodd Archifdy Sir y Fflint ac Archifau Sir Ddinbych apêl ar y cyd am ddogfennau’r Ail Ryfel Byd ym mis Mehefin. Bydd unrhyw lythyrau, dyddiaduron, ffotograffau, papurau personol a busnes o’r cyfnod 1939-1945 yn ychwanegiad gwerthfawr i’n casgliadau presennol sydd yn ymwneud â phrofiadau pobl leol yn ystod y rhyfel.
Mae’r digwyddiadau allgymorth mwyaf diweddar yn cynnwys Ffair Dreftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Wrecsam ym mis Gorffennaf, a gynhaliwyd stondin gan staff o’r ddau wasanaeth. Gofynnwyd am wybodaeth am ddaliadau pob swyddfa sydd yn ymwneud â hanes lleol a theuluol.
Treuliodd staff y prosiect ‘Datgloi’r Seilam’ beth amser yn gweithio yn y stiwdio gadwraeth yn Archifdy Sir y Fflint yn gwneud i fesur blychau ar gyfer cyfrolau amrywiol yn y casgliad. Bydd y blychau yma yn amddiffyn y cyfeintiau rhag llwch a llygredd golau a dirywiad pellach. Wedyn, ym mis Awst roedd staff o’r ddwy swyddfa gyda stondin yn Sioe Dinbych a’r Fflint. Roedd presenoldeb yn y sioe yn rhoi cyfle i staff ymgysylltu â phobl nad oeddent wedi ymweld â’n gwasanaethau o’r blaen, ac i’w hysbysu o gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae dogfen Briffio Gyhoeddus yn darparu rhagor o wybodaeth ar y canolfan newydd, a gellir gweld hyn ar-lein yn www.flintshire.gov.uk/archives neu archives.denbighshire.gov.uk
Mae eich barn yn bwysig a derbynnir yr holl adborth yn ddiolchgar. Gallwch lenwi holiadur ar-lein yn: www.surveymonkey.co.uk/r/CanolfanArchifau-ArchiveCentre neu gwblhau holiadur copi caled yn y swyddfa.
Steph Hines
Archifydd
Archifdy Sir y Fflint