Lleolir Archifau Powys yn Llandrindod a hon yw ystorfa swyddogol ar gyfer cofnodion Sir Powys. Mae ein casgliadau’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn cynnwys cofnodion cyhoeddus o sefydliadau megis llysoedd ac ysbytai; cofnodion swyddogol megis cofnodion y cyngor sir ac ysgolion; cofnodion yr anghydffurfwyr ac eglwysig, a all rhoi gwybodaeth ar enedigaethau, marwolaethau a phriodasau; yn ogystal â chofnodion a ddyddodwyd gan gyfreithwyr a grwpiau lleol. Mae llawer o bobl yn defnyddio ein hadnoddau ar gyfer hanes y teulu. Ond mae’r archif hefyd yn ffynhonnell gyfoethog ar gyfer hanes cymdeithasol ac i ddysgu am yr ardal leol. Gallwch weld dogfennau gwreiddiol yn yr ystafell chwilio yn ein hadeilad newydd.

Yn ogystal â chadw cofnodion gwreiddiol, rydym hefyd yn cadw casgliad o lyfrau hanes lleol cynhwysfawr a chyhoeddiadau eraill. Mae gennym ddigonedd o le ar y byrddau a chyfrifiaduron gyda rhaglenni Find My Past a thanysgrifiadau i Ancestry. Mae gennym wasanaeth DiWifr ar gyfer gliniaduron a theclynnau eraill, a pheiriannau darllen microffilm a microfiche.

Y ffordd orau o’n cyrraedd yw trwy ein gwefan lle gallwch weld ein catalogau a chwilio am eitemau yn ein cronfa ddata: https://cy.powys.gov.uk/archifau

Ar ben hyn gallwch ddefnyddio ein gwefan i wneud cais i’n gwasanaethau copïo ac ymchwil os nad oes modd i chi ymweld â ni wyneb yn wyneb.

Mae Archifau Powys ar agor bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9.30am a 5.00pm ond cysylltwch â ni cyn ichi deithio fel y gallwn gadw lle ar eich cyfer.

Powys Archive, Llandrindod Wells

Leave a Reply