Cynhaliwyd prosiect Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru ‘Cynefin: Mapio Cymru: Ymdeimlad o Le’ rhwng 2014 a 2017. Yn ystod y prosiect cafodd mwy na 1,100 o fapiau degwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru eu trwsio a’u digido a thrwy gymorth ar-lein gan wirfoddolwyr trawsgrifiwyd tua 27,000 o gofnodion o fapiau degwm Cymru a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw, gan eu cysylltu â rhifau caeau perthnasol ar y mapiau.

Cafwyd cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau mewn da gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Gallwch chwilio a phori dros 300,000 o gofnodion o fapiau degwm Cymru a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw gan ddefnyddio wefan Lleoedd Cymru.

Fel rhan o’r prosiect Cynefin cyffredinol, goruchwyliwyd chwe phrosiect llai gan swyddfeydd archifau lleol drwy Gymru, gyda phob prosiect yn edrych ar agwedd o’r mapiau degwm oedd yn apelio atynt gan weithio gyda’u cymuned leol. Cynlluniwyd y prosiectau mewn ffordd oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr o wahanol gefndiroedd ac oed, yn amrywio o wyth i wyth deg oed.

Defnyddiwch y ddolenni isod i darllen mwy am y chwe phrosiect lleol:

CEREDIGION: ‘Peint o Hanes Plîs!’
CONWY: ‘Cynefin y Bonedd a’r Werin’
CONWY: ‘Plwyf Dwygyfylchi cyn i’r rheilffordd gyrraedd’
GORLLEWIN MORGANNWG: Archwilio Coetir Hynafol Gŵyr
GWENT: O Deithiau i Dreialon; Datgloi Treialon y Siartwyr
MORGANNWG GANOL: ‘I fyny a throsodd’