Mae Cymru’n Nerthu’r Byd a ariennir gan y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol a Llywodraeth Cymru a ‘Forging Ahead’ a ariennir gan y Ymddiriedolaeth Llawysgrifau Cadwraeth Genedlaethol wedi ehangu mynediad at gofnodion y prif weithfeydd dur yn ne a gogledd Cymru, yn ogystal â phapurau’r prif undeb llafur, gan roi dealltwriaeth gynhwysfawr o wahanol agweddau ar y diwydiant.
Arweiniwyd y prosiectau gan Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe lle mae staff academaidd yn awyddus i fynd i’r afael â phrinder y gwaith yn ddiweddar ar hanes y diwydiant dur yng Nghymru.
Elwodd y gwasanaethau archifau sy’n bartneriaid ar y catalogio a gwaith cadwraeth manwl. Ochr yn ochr â hyn, enillodd gwirfoddolwyr sgiliau drwy hyfforddiant, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i raglen lanhau ac ailbecynnu. Mae’r prosiectau wedi ymdrin â’r casgliadau a ganlyn:
- Cydffederasiwn y Masnachau Haearn a Dur
Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe - Casgliad Dur Prydain
Archifau Morgannwg - Cofnodion Gwaith Dur Brymbo
Archifdy Sir y Fflint ac Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam
Arweiniodd llwyddiant y cydweithrediad hwn iddo gael ei gynnwys fel astudiaeth achos ‘The Art of Partnering’ yng Ngholeg y Brenin Llundain, ymchwiliad diwylliannol i’r ‘rôl y mae partneriaeth yn ei chwarae wrth alluogi sefydliadau diwylliannol a ariennir yn gyhoeddus i wella safon ac amrywiaeth eu gwaith’.
Mae’r casgliadau sy’n cael sylw yn y prosiect hwn hefyd yn gysylltiedig â daliadau pwysig eraill ar draws Cymru gan gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith pellach o ran partneriaethau ac ymgysylltu â’r gymuned rhwng yr holl wasanaethau sy’n aelodau o CACC. Mae gwneud y casgliadau hyn yn hygyrch yn gosod y sylfeini ar gyfer ystyried cyfeiriadau newydd o ran ymchwil a datblygu partneriaethau ar draws y sector.