Bu ‘Sandfields: Cymuned a adeiladwyd ar ddur’, prosiect rhwng Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Archifau Richard Burton, Ysgol Gyfun Sandfields ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn gwahodd disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun

Sandfields i ddefnyddio adnoddau archifol megis ffotograffau, ffilmiau, mapiau a darnau o hanes llafar sy’n gysylltiedig â’r gwaith dur â’r stad I greu arddangosfa deithiol i ddathlu hanes stad Sandfields ym Mhort Talbot.

Cynhaliwyd pedair sesiwn addysg gyda 60 o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Sandfields i’w helpu i ddeall daearyddiaeth economaidd a hanes eu stad gan gysylltu â gofynion eu cwricwlwm Daearyddiaeth a Chelf. Talodd cyllid grant o £2,881 drwy Gynllun Grantiau ‘Newid Pethe’ CACC gostau cludiant mewn bysiau i’r disgyblion, cymorth addysgu ychwanegol, costau argraffu i’r arddangosfa a llogi ystafell i’r digwyddiad arddangos yn y gymuned.

Sylw un o’r athrawon oedd: “Mae wedi bod yn wirioneddol braf dod ynghyd â’r archifyddion – mae wir wedi gwneud i hanes ddod yn fyw i ni mewn ffordd greadigol. Roedd yn brofiad bendigedig i’r disgyblion ac i ni, yr athrawon.”