Sefydlwyd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru ym mis Mai 1995 fel corf cynrychioladol I sefydliadau ledled Cymru sy’n ymwneud a gofalu am archifau.

Nodau’r Cyngor yw:

1. Dylanwadu ar bolisi ynglyn ag archifau yng Nghymru.
2. Dwyn at sylw’r cyhoedd, y llywodraeth neu sefydliadau perthnasol faterion sydd o ddiddordeb ar hyn o bryd ym maes archifau yng Nghymru.
3. Darparu canolbwynt I brosiectau cydweithredol ym maes archifau yng Nghymru.
4. Dwyn ynghyd sefydliadau sy’n ymwneud a gweinyddu archifau yng Nghymru a darparu fforwm iddynt gyfnewid barn yn rheolaidd.

Mae CACC hefyd yn rheoli cynlluniau grantiau i gefnogi gwaith gwasanaethau sy’n aelodau wrth gadw a darparu mynediad i adnoddau archifol. Mae’r Cynllun Grantiau Cynnal Achredu yn rhoi cymorth i ddatblygu a gwella gwasanaethau’n unol â gofynion y Cynllun Achredu Gwasanaethau Archifau. Gall cyllid grant gefnogi gofalu am gasgliadau, datblygu’r gweithlu neu waith sy’n ymwneud â mynediad i’r cyhoedd. Mae cyllid penodol hefyd yn cael ei ddarparu drwy grantiau Ymgysylltu â’r Gymuned ‘Newid Pethe’ i helpu i ehangu mynediad i archifau o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chymunedau difreintiedig eraill ar draws Cymru. Cyllidir y cynlluniau grantiau hyn gan Lywodraeth Cymru.

Mae Fforwm blynyddol CACC, a gynhelir bob mis Tachwedd, yn darparu cyfle i staff o wasanaethau archifau ar draws Cymru i gwrdd ac i drafod a chlywed am bob math o faterion sy’n berthnasol i’w gwaith yn y dyfodol.