Dyma brosiect i wella ymwybyddiaeth o, a mynediad at, gasgliadau diwylliannol i bobl o fewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Y bwriad yw creu sylfaen gref ar gyfer datblygu casgliadau gyda’r cymunedau hynny, gan sicrhau bod eu profiadau yn rhan annatod o’n cofnod cenedlaethol.
Mae cam cyntaf y prosiect hwn i ddatblygu pecyn cymorth, sefydlu methodoleg arolwg ar gyfer casgliadau, a chynhyrchu’r map ar gyfer datblygiad pellach wedi’i chwblhau.
Gallwch lawrlwytho’r adnoddau hyn gan ddefnyddio’r dolenni isod: