I ddathlu Blwyddyn y Môr, a hanes morwrol cyfoethog Ynys Môn, cynhaliom brosiect celf a ddefnyddiai ddogfennau archifol i greu darnau cerameg sy’n darlunio stori The Royal Charter, clipiwr stêm a gafodd ei longddryllio. Crëwyd y gwaith celf serameg hwn dan arweiniad Lyn Gallagher, seramegydd lleol. Wrth ymchwilio ar gyfer datblygu’r teils serameg creodd pob cyfranogwr hefyd eu portffolio eu hunain o waith celf.

Buom yn gweithio gydag wyth o blant o’r gymuned leol sy’n oroeswyr camdriniaeth ddomestig. Cefnogir y plant hyn gan yr elusen Gorwel. Prif ffocws Gorwel yw darparu gwasanaethau cymorth ym maes trais yn y cartref ac atal digartrefedd, ond mae’r manteision eraill yn niferus. Maent yn cynnwys; gwella ansawdd bywyd a lles, datblygu sgiliau bywyd, cefnogi’r unigolion i fyw bywyd iach, a sefydlu gweithgareddau cymunedol.

Anglesey Archives Gorwel Ddoe 6

Roedd yn braf gweld cynnydd yn hunan-barch, sgiliau cyfathrebu, a gwaith tîm y plant a gymerodd ran yn y prosiect. Datblygodd bob un diddordeb mewn gweithgareddau celf hefyd. Bydd Ynys Môn am byth yn cael ei gysylltu â’r môr, ac roedd hwn yn gyfle i’r plant ddysgu am y cysylltiad hanesyddol cyfoethog hwn sy’n unigryw i Ynys Môn.

Roedd y cyfleoedd a roddwyd i’r plant yn ystod y prosiect yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar eu bywydau, ond hefyd i fywydau eu teuluoedd, gan rymuso’r hyder i ffurfio cyfeillgarwch newydd ac i fod yn unigolion gweithgar yn eu cymuned. Mae rhai o’r plant hyn yn dioddef o symptomau straen ôl-drawmatig, gan gynnwys ofn, diymadferth ac arswyd. Roeddent yn gallu mynegi eu teimladau trwy weithgareddau celfyddyd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar, ond yn fwy na hyn, cawsant gyfle i fod yn blant yn eu bywydau eu hunain. Rhywbeth sydd wedi bod yn amlwg yn ddiffygiol yn eu bywydau ifanc.

Anglesey Archives Gorwel Ddoe 1

Ar ddiwedd y prosiect, trefnwyd prynhawn o ddathlu. Cawsom agoriad i’r arddangosfa lle’r oedd y plant ac aelodau o’i deulu yn cael gweld eu gweithiau celf wedi’i arddangos yn barhaol yn Archifau Ynys Môn, a mwynhau sgwrs dros de prynhawn.

Archifau Ynys Môn.

Leave a Reply