Mae casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg yn cynnwys tua 4000 o blatiau gwydr negatif, sy’n dogfennu cloddio am lo yn Ne Cymru.  Mae’r platiau gwydr hyn yn dangos ystod o bynciau yn ymwneud â bywyd y lofa, uwchlaw‘r ddaear ac oddi tani.  Gan fod platiau gwydr yn cynnig mwy o sefydlogrwydd dimensiynol o’u cymharu â chynheiliaid plastig, maent yn aml i’w gweld mewn casgliadau mawr diwydiannol sy’n cynnwys llawer o ddelweddaeth dechnegol ac atgynyrchiadau o fapiau a chynlluniau.

Er bod y cynheiliaid yn cynnig mwy o sefydlogrwydd cemegol na’u cyfatebwyr seliwlos nitrad ac asetad, mae gwydr yn dod â’i broblemau ei hun.  Gall y gwydr ddirywio, yn enwedig gwydr hŷn, am ei fod yn cynnwys cyfrannau sy’n sensitif i ddŵr sy’n gallu gollwng mewn amgylcheddau oriog a microhinsoddau caeedig.  Yn ogystal a difrodi’r gwydr, gall y broses ddirywio hon hefyd effeithio ar yr emylsiwn ffotograffig.

damaged emulsion example
Enghraifft o emylsiwn sydd wedi dirywio

 

Y prif broblemau sy’n effeithio ar y negatifau plât gwydr yng nghasgliad y  Bwrdd Glo yw platiau wedi torri ac emylsiwn wedi difrodi.  Rhoddwyd amgaeadau newydd ar y platiau a dorrwyd sy’n clustogi a gwahanu’r teilchion gwydr a chynnig posibilrwydd o driniaeth bellach yn y dyfodol.  Rhaid atgyweirio’r platiau sydd ag emylsiwn wedi ei ddifrodi cyn y gellir eu digideiddio, eu hamgáu o’r newydd a’u gweld gan y cyhoedd, gan wneud eu cadwraeth yn flaenoriaeth o bwys.

Ym mis Hydref cynhaliodd Oriel Gelf Ontario yn Nhoronto weithdy ar gadw ffotograffau ar wydr, yr aeth y gwarchodwr project Stephanie Jamieson iddo, diolch i gyfraniadau hael gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru, Sefydliad y Gweithwyr Brethyn ac Ymddiriedolaeth Anna Plowden.  Cynhaliwyd y cwrs tridiau yma gan Katherine Whitman, Gwarchodwr Ffotograffau yn Oriel Gelf Ontario a Greg Hill, Uwch Warchodwr Deunyddiau Archif a Ffotograffau yn Sefydliad Cadwraeth Canada.  Dechreuodd y cwrs gyda diwrnod o ddarlithoedd ar gemeg a natur gwydr, hanes ffotograffiaeth ar wydr ac adnabod technegau a deunyddiau.  Rh oddwyd sgyrsiau gan Stephen Koob, Pennaeth Cadw ar Wydr yn Amgueddfa Corning; Sophie Hackett, Curadur Ffotograffiaeth yn Oriel Gelf Ontario a Katherine Whitman.

Canolbwyntiodd yr ail ddiwrnod ar addysgu technegau trwsio ac argymhellion storio. Roedd amser hefyd i drafod manylion casgliadau unigol a rhannu profiadau o weithio gyda’r math hwn o ddeunydd.

Ar y diwrnod olaf, cafodd mynychwyr y gweithdy gyfle i roi cynnig ar y technegau a ddysgwyd ganddynt yn stiwdio gadwraeth yr Oriel.  Roedd hyn yn golygu trwsio platiau gwydr oedd wedi torri a sadio emylsiwn.  Roedd un dull o drwsio’n defnyddio cwyr gludiog i ddal y darnau mân o wydr yn eu lle tra’n ei roi at ei gilydd yn fertigol mewn feis.  Rhoddwyd glud wedyn ar y toriad gan ddefnyddio darn o wlân dur ar ffon.

trying the vertical assembley method
Rhoi cynnig ar y dull cydosod fertigol

 

using-sticky-wax-in-the-repair-of-broken-glass-2.jpg
Defnyddio cwyr gludiog wrth atgyweirio gwydr

Er mwyn sadio’r emylsiwn a ddifrodwyd, gosodwyd lleithder dan reolaeth i’r fflochiau oedd yn codi er mwyn ymlacio’r gelatin cyn brwsio glud ar i’r gwydr oddi tanodd. Ychwanegwyd pwysau ysgafn â phlygwr asgwrn wedyn drwy bondina a gadawyd i’r ffloch sychu dan bwysau.

Roedd y gweithdy hwn yn hynod berthnasol i’r ystyriaethau cadwraeth sydd i’w cael yng nghasgliad y Bwrdd Glo yn Archifau Morgannwg.  Y cam nesaf fydd i brofi a pherffeithio’r technegau trwsio hyn cyn dechrau gweithio ar y platiau gwydr negatif a ddifrodwyd.

 

Stephanie Jamieson, Atgyweiriwr Prosiect Glamorgan’s Blood.

Leave a Reply