Mae Archifau Gwent yn falch o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedolaeth Wellcome am £38,729 i ariannu’n cynllun: ‘O’r “Geiniog yn y Bunt” at “Am ddim yn y Man Darparu”: Catalogio cofnodion ysbytai Sir Fynwy cyn ac ar ôl 1948.’
Mae cofnodion ysbytai Sir Fynwy yn arbennig o werthfawr oherwydd y ddealltwriaeth y maen nhw’n rhoi am hanes darpariaeth gofal iechyd yn yr ardal a ysgogodd Aneurin Bevan i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cyn 1948, cafodd nifer o ysbytai eu hadeiladu a’u cynnal gydag arian a gronnwyd trwy roddion a thanysgrifiadau gan aelodau. Daeth y cyfoethog a’r tlawd at ei gilydd gyda’r bwriad o wella cyfleusterau meddygol yn y sir. Cyfrannodd y cyfoethog arian, cynnyrch a thir a chytunodd gweithwyr diwydiannol lleol i aberthu ‘ceiniog yn y bunt’ allan o’u cyflogau i gefnogi’r cymdeithasau cymorth meddygol newydd.
Datblygodd y cymdeithasau yma wasanaethau ysbyty a gofal iechyd yn Sir Fynwy a sicrhau nad oedd rhaid i danysgrifwyr a chyfranwyr ariannol (a’u dibynyddion) dalu tâl rhagor am gymorth meddygol. Fel Cadeirydd pwyllgor rheoli Ysbyty Bach Parc Tredegar a ariannwyd gan gymdeithas feddygol yn 1929, byddai Bevan wedi gweld yn uniongyrchol llwyddiant y model yma o ofal iechyd lleol. Yn 1948 gellid gweld ei ddylanwad pan gyflwynwyd y GIG.
70 mlynedd ers sefydlu’r GIG, bydd Archifau Gwent yn sicrhau bod y dogfennau sy’n cofnodi hanes darpariaeth feddygol yn Sir Fynwy, a’i rhan yn ysbrydoli system gofal iechyd ‘am ddim yn y man darparu’, ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu penodiad archifydd cynllun a chynorthwyydd cadwraeth a fydd, dros y flwyddyn nesaf, yn catalogio ac yn cadw eu gofnodion ysbytai yn yr 20fed Ganrif nad sydd wedi eu rhestru. Mae’r casgliad eang yma’n cynnwys amrywiaeth eang o lyfrau cofnodion, cofrestrau a chynlluniau ysbytai a bydd yn adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr y dyfodol mewn nifer o feysydd.
Ar ôl clywed am y grant dywedodd yr Archifydd Sirol, Tony Hopkins:
‘Mae’r cofnodion gofal iechyd sydd gan Archifau Gwent o bwys cenedlaethol o ystyried eu dylanwad ar sefydlu’r GIG. Maen nhw’n hynod o bwysig hefyd ar gyfer deall hanes cymdeithasol a lles de-ddwyrain diwydiannol Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn fyr, mae hwn yn adnodd archifol pwysig a fydd ar gael i ymchwilwyr cyn bo hir diolch i’r grant hael yma gan Ymddiriedolaeth Wellcome.’
Dilynwch y blog ym am fwy o wybodaeth: Blog ‘O’r “Geiniog yn y Bunt” at “Am ddim yn y Man Darparu”: Catalogio cofnodion ysbytai Sir Fynwy cyn ac ar ôl 1948.’