Paratowyd y polisi hwn gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru i gydnabod yr her strategol sylweddol y mae sefydliadau yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn creu cofnodion yn ei hwynebu o safbwynt cadwedigaeth ddigidol, ac i’r gwasanaethau archifau sy’n gyfrifol am eu diogelu’n barhaol. Er mwyn rheoli a gofalu’n briodol am gofnodion digidol, mae angen adnoddau ychwanegol a sgiliau newydd sy’n aml ddim ar gael mewn sefydliadau unigol, ac argymhellir dull cydweithredol.
Nodau’r Polisi
- Sicrhau bod adnoddau digidol gwerthfawr a pharhaol yn cael eu dewis i’w diogelu a’u cadw’n ddilys a hygyrch yn y dyfodol.
- Darparu fframwaith ar gyfer datblygu strategaethau cadwedigaeth ddigidol y gellir eu haddasu i’w defnyddio gan sefydliadau drwy Gymru, waeth beth fo’u maint a’u capasiti.
- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Cadwedigaeth Ddigidol effeithiol ymysg sefydliadau archifau ac ymarferwyr, rheolwyr, staff technoleg gwybodaeth a rhanddeiliaid / gwneuthurwyr polisi.
Defnyddiwch y dolenni isod i ddarllen:
Polisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru
Mae Gweithgor Cadwedigaeth Ddigidol CAAC yn parhau i fynd i’r afael â’r potensial i gael datrysiad cadwedigaeth ddigidol Cymru gyfan, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol a chywir yn sgil y datblygiadau hyn a pholisi ehangach a newidiadau technegol.