Helo Anna Sharrard ydw i ac rwy’n gweithio i Brifysgol Caerdydd, gyda’r tîm Casgliadau Arbennig ac Archifau. Rwyf wedi bod yn fy rôl fel Uwch Gynorthwyydd Archifau a Chofnodion ers chwe blynedd. Mae gofalu am gof corfforaethol y brifysgol drwy ei Archif Sefydliadol yn rhan o’m cyfrifoldeb, ac rwyf hefyd yn helpu i ymwreiddio arferion rheoli cofnodion da ar draws y sefydliad.
Gyda chymorth grant gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) fynychais Gynhadledd Cymdeithas Archifau a Chofnodion (ARA) 2023 ar 30 Awst – 1 Medi a gynhaliwyd eleni ym Melffast.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle i mi gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill o bob rhan o’r DU, Iwerddon ac Ewrop, a dysgu o arloesedd sy’n digwydd ar draws y sector archifau a chofnodion.


Dathliadau’r canmlwyddiant
Gydag Archifdy Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (PRONI) yn troi’n 100 mlwydd oed, roedd Belffast yn lleoliad addas iawn ar gyfer cynhadledd ARA eleni. Cawsom groeso cynnes iawn gan PRONI, gyda noson cyrri yn ei phencadlys pwrpasol yn Chwarter Titanic Belffast. Cawsom deithiau o amgylch y staciau a’r ystafell gadwraeth, a chael pip ar drysorau o’r casgliad yn eu hystafell ddarllen (peidiwch â phoeni, fe olchon ni ein dwylo yn gyntaf!).

Profiad cymuned o Raniad
Roedd archwiliad Anne Gilliland[i] o ffiniau fel safleoedd cymhlethdod yn effeithiol iawn wrth iddo ddatblygu fy nealltwriaeth o’r rôl y mae cadw cofnodion yn ei chwarae yng Ngogledd Iwerddon ac Iwerddon.
Esboniodd Anne ei bod wedi cymryd 35 mlynedd o fuddsoddiad allanol yn y broses heddwch i greu cymuned wydn ar ffin Derry-Donegal yng ngogledd-orllewin Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Cynigiodd Anne y gallai meddwl am ‘gymuned’ o ran gwahaniaethau cenedlaethol, y diaspora sy’n dychwelyd, a chymunedau’r dyfodol fyddai’r dull mwyaf buddiol ar gyfer meithrin cymodi.
Tuag at sector mwy cynhwysol
Roedd yn galonogol bod cynhwysiant yn greiddiol i’r gynhadledd; Roedd yn amlwg ym mhob un o chwe ffrwd y rhaglen.
Rhannodd Sarah Trim-West[ii] ei phrofiad personol o ddefnyddio ci cymorth mewn man gwaith cadw cofnodion. Gall yr addasiad ymarferol hwn annog y rhai ag anableddau penodol i gael eu denu i’n sector ac aros ynddo, trafodaeth sy’n absennol i raddau helaeth ar hyn o bryd.
Adleisiodd pwysigrwydd siarad am a rhannu profiadau byw o anabledd yn y sesiwn ‘Is it okay?’ a oedd yn sgwrs anffurfiol, agored i’n helpu ni fel gweithwyr proffesiynol ac fel unigolion i fod yn gynghreiriaid gwell.

Fel gweithiwr proffesiynol newydd nad oedd wedi mynychu cynhadledd o’r blaen, byddwn yn bendant yn argymell rhoi cynnig arni. Byddwch yn ddewr a dechreuwch sgwrs gydag unrhyw un, ac fe welwch fod pawb yn gyfeillgar ac yn groesawgar!
Anna Sharrard
Uwch Gynorthwyydd Archifau a Chofnodion
Prifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau
[i] Anne Gilliland (UCLA, Los Angeles), ‘Recordkeeping, Borders and Community Resilience’.
[ii] Sarah Trim-West (Brunel University Archives and Special Collections, London), ‘Assistance Dogs in Archives: Aiding Our Journey Towards a More Inclusive Sector’.