Ffotograff o Tîm Hoci Menywod Prifysgol Caerdydd yn 1910
Tîm Hoci Menywod yn 1910 (Cyfeirnod Cap & Gown, Cyfrol VII

Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth helaeth o glybiau chwaraeon i’w myfyrwyr. Ond a oedd hyn bob amser yn wir? Rydym yn edrych ar Gasgliadau Arbennig ac Archifau’r brifysgol er mwyn deall sut y daeth chwaraeon yn rhan annatod o fywyd myfyrwyr.

Mae prifysgolion yn y DU wedi bod yn cystadlu gyda’i gilydd ers ffurfio Bwrdd Athletau Gornest Prifysgolion Cymru a Lloegr yn 1919. Roedd ganddo naw aelod sefydlol: Aberystwyth, Bangor, Birmingham, Caerdydd, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Nottingham, a Sheffield. (Western Daily Press, 15 Mawrth 1919, t. 6)

Fe’i gelwir bellach yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), a dyma’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer chwaraeon addysg uwch yn y DU.

Fodd bynnag, mae cystadleuaeth rhwng prifysgolion Cymru yn ymestyn yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Chwaraeon rhyng-golegol yng Nghymru

Roedd y gystadleuaeth ryng-golegol gyntaf rhwng Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd ym 1892 ac fe’i cynhaliwyd yn Aberystwyth. Y cystadlaethau oedd ras 440 llath, naid uchel, a ras 100 llath. Roedd y ddau olaf yn “agored i fyfyrwyr tri choleg Cymru, ac unrhyw amatur o fewn radiws o 30 milltir o Aberystwyth.” (Cylchgrawn Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, Mehefin 1892, Cyfeirnod 102/8)

Datblygodd y gystadleuaeth flynyddol hon yn Wythnos Ryng-golegol, lle cynhaliwyd chwaraeon, dawnsfeydd a’r Eisteddfod Ryng-golegol.

Mae gennym bedair rhaglen Wythnos Ryng-golegol a oedd gynt yn eiddo i Iorweth John, o bob un o’i flynyddoedd yn fyfyriwr. Mae’n rhaid bod y digwyddiad chwaraeon blynyddol hwn rhwng colegau cyfansoddol Prifysgol Cymru wedi bod yn rhan sylweddol o’i brofiad yn fyfyriwr, gan fod pobl eraill oedd yn bresennol wedi’u harwyddo a’i fod wedi’u cadw’n gofroddion.

Myfyrwyr cynnar Caerdydd yn codi arian ar gyfer campfa

Nid oes cyfleusterau chwaraeon wedi bod ar gael i fyfyrwyr Caerdydd bob amser. Pan gafodd ei sefydlu ym 1883, nid oedd gan Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (rhagflaenydd Prifysgol Caerdydd) feysydd chwarae awyr agored na mannau dan do er mwyn i fyfyrwyr ymarfer corff.

Y myfyrwyr eu hunain oedd y grym y tu ôl i gyfleuster chwaraeon pwrpasol cyntaf y Coleg.

Ym 1886, apeliodd y myfyrwyr i’r Senedd am gampfa. Ar awgrym y Senedd, fe wnaethon nhw ffurfio pwyllgor myfyrwyr a dechrau codi arian. Trwy danysgrifiadau a wnaed gan fyfyrwyr a rhoddion o apêl gyhoeddus, codwyd digon o arian i dalu am gost adeiladu ac offer y gampfa. “Amcangyfrifir yn £250” (South Wales Echo, 3 Mawrth 1887, t. 2), mae hyn yn cyfateb i tua £20,000 heddiw.

Cafodd y gampfa ei gwblhau yn Hydref 1888 – adeilad pren ger prif adeilad y Coleg ar y pryd ar Heol Casnewydd. Roedd ganddo geffyl gymnasteg (vaulting horse), bariau llorweddol a cyfochrog, ac ysgol bont. Gallai’r myfyrwyr hefyd ddefnyddio pastynau Indiaidd i wneud ymarfer corff a oedd yn cynnwys siglo clybiau jyglo pren mewn patrymau penodol i dargedu cyhyrau penodol a gwella cryfder.

Roedd y gampfa yn “cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn rheolaidd” (Cyfeirnod Cylchgrawn UCSWM, Rhagfyr 1889)a threfnwyd dosbarthiadau nos ar gyfer myfyrwyr Ysgol Dechnegol Caerdydd.

Menywod a dynion mewn chwaraeon

Mae ein casgliadau’n dangos bod menywod wedi bod yn ymwneud â chwaraeon drwy gydol gorffennol Prifysgol Caerdydd. 

O’i sefydlu, roedd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn benderfynol y dylai menywod elwa o “holl fanteision addysg yn gyfartal â dynion” (Western Mail, 2 Hydref 1883, t. 3), ac nid oedd chwaraeon yn eithriad.

Sefydlwyd Clwb Nofio i Ddynion ym 1898, ac yna un i ferched yn fuan wedyn. Gwnaeth y Coleg gytundeb gyda baddondai Cilgant Guildford er mwyn i’r myfyrwyr ddefnyddio’r pwll nofio cyhoeddus. Roedd y pwll hwn wedi’i wasgu rhwng camlas gyflenwi Doc Bute a Rheilffordd Cwm Taf – yn ffodus erbyn hynny nid oedd bellach yn bwll awyr agored!

Ffotograff o Tîm Polo Dŵr Prifysgol Caerdydd ym 1912-13
Tîm Polo Dŵr ym 1912-13 (Cyfeirnod Cap & Gown, Cyfrol XI)

Yn fuan iawn daeth y Clwb Tenis Lawnt yn un o’r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y Coleg pan ffurfiwyd ef yn 1893. Efallai mai rhan o’i apêl oedd mai dyma’r unig glwb lle gallai menywod a dynion chwarae gyda’i gilydd. 

Ffotograff du a gwyn o dynion a menywod yn eistedd i'r gamera gyda'i racedi tenis
Tenis oedd yr unig glwb chwaraeon cymysg yn 1899
(Cyfeirnod UCC/MISC/P/159/18)

Dillad chwaraeon

Mae dillad chwaraeon yn eiddo i gyn-fyfyrwyr sydd wedi’u cadw yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Mae teis, crysau rygbi, sgarffiau, a chapiau gyda arwyddluniau ei sefydliadau rhagflaenol yn ein hatgoffa am yr holl gemau caled a enillodd ac a gollodd myfyrwyr Caerdydd.

Blaser chwaraeon gwlân y myfyriwr Francis Kelvin Beese oedd hwn, ac fe’i rhoddwyd i ni gan ei deulu. Mae byrfoddau o’r Clwb Tenis Lawnt a’r Clwb Rygbi wedi’u brodio arno. Mae gennym lun o Francis yn gwisgo’r blaser yn ystod gêm denis yn 1924, yn y canol yn y llun.

Mae chwaraeon wedi datblygu i fod yn elfen ganolog ym mywyd prifysgol, ac mae’r nifer helaeth o dimau chwaraeon a chyfleusterau modern sydd gan Brifysgol Caerdydd heddiw wedi datblygu o’r cychwyn di-nod. Mae’r deunydd sydd mewn Casgliadau Arbennig ac Archifau yn datgelu bod myfyrwyr Caerdydd wedi bod yn hyrwyddo eu hysbryd cystadleuol ers dros 130 o flynyddoedd.

Anna Sharrard, Uwch Gynorthwy-ydd Cofnodion ac Archifau
Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

Leave a Reply