Tachwedd 2 yw Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd, digwyddiad blynyddol sydd wedi’i arwain gan Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol i ddathlu’r gwaith cydweithredol sy’n cael ei wneud yn fyd-eang i sicrhau bod cynnwys digidol ar gael i’w defnyddio yn y presennol a’r dyfodol. Thema eleni yw Cadwedigaeth Ddigidol: Ymdrech ar y Cyd, sy’n cyd-fynd yn arbennig â’n gweithgareddau yng Nghymru. Fel gwlad fach a chlyfar rydym wedi hen arfer gwneud ymdrechion ar y cyd er lles pawb, a adlewyrchir yn arbennig yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf hon yn unigryw i Gymru ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau a gweithio ar y cyd. Rydym yn sicr wedi cwrdd â gofynion y Ddeddf yng nghyd-destun cadwedigaeth ddigidol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau drwy greu polisi cenedlaethol sy’n eiriol dros fuddsoddi, datblygu sgiliau a thrwy lawer o fentrau cydweithredol.

Cydnabuwyd llwyddiant ein gwaith eirioli wrth i ni dderbyn Gwobr Rhwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd yn 2022 ar gyfer Addysg a Chyfathrebu. Mae cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Enghraifft dda o effaith ein hymdrech ar y cyd yw prosiect Kickstart Cymru. Ariannwyd y fenter hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddarparu’r caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol (y Bwndeli) a hyfforddiant i swyddfeydd cofnodion cyhoeddus yng Nghymru i ymgymryd â thasgau sylfaenol wrth gyrchu cofnodion digidol. Mae fideos cysylltiedig, cyflwyniadau PowerPoint a dogfennaeth bellach ar gael ar becyn cymorth staff Diogelu’r Didau Archifau Cymru: https://archives.wales/staff-toolkit/saving-the-bits-programme/.

Elfennau o’r Bwndeli, gan gynnwys storfa allanol, atalydd ysgrifennu, UPS a meddalwedd wedi’i llwytho ymlaen llaw

Mae’r Llyfrgell hefyd yn datblygu ei llifoedd gwaith  ei hun trwy weithio gydag adneuwyr i sicrhau nad yw’r broses gyflwyno yn rhy feichus, ond yn bodloni gofyniad y Llyfrgell i alluogi amlyncu cynnwys dibynadwy a chadwadwy. Mae gwerth yr ymdrech ar y cyd hwn wedi’i ddangos yng nghyhoeddiad diweddar y casgliad the Phonology of Rhondda Valleys, sydd ar gael drwy gatalog Atom:  https://archives.library.wales/index.php/the-phonology-of-rhondda-valleys-english. Mae’n cynnwys ymchwil am yr  acen Saesneg yng Nghymoedd Rhondda, De Cymru. Mae’n gasgliad cymhleth sy’n cynnwys cyfweliadau ag aelodau o Glybiau’r Gweithwyr yng nghymunedau’r Cymoedd, recordiadau sain mp3 a ffeiliau PDF aml-dudalen o drawsgrifiadau. Roedd darparu mynediad i gasgliadau yn golygu ymwneud â nifer o faterion technegol a hawliau, na ellid eu datrys ond trwy ymdrech gyfunol yr adneuwr, yr archifydd derbyniad digidol, datblygwr Archivematica a llu o rai eraill, sy’n dangos bod cadwedigaeth ddigidol yn wir yn ymdrech ar y cyd!

Sally McInnes
Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Leave a Reply