Mae nifer o eitemau sy’n sôn am epidemig colera Caernarfon yn 1866 ar gael yng nghasgliadau Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Cafwyd sawl achos o golera yng ngwledydd Prydain yn ystod yr 1860au, ac yn ystod 1866 y dioddefodd Caernarfon fwyaf. Amcangyfrifir bod oddeutu 100 o bobl wedi marw o’r afiechyd yn ystod y cyfnod yma, ac mae o oleiaf 77 o’r dioddefwyr wedi’u claddu ym mynwent Llanbeblig. Cafwyd hyd at naw claddedigaeth ar rai diwrnodau, a chafodd dau berson eu claddu ar Ddydd Nadolig.

Dyfyniadau o lyfr log – Ysgol British Caernarfon ysgrifennwyd gan y prifathro yn ystod epidemig Colera 1866/7

Mae’r eitemau’n cynnwys adroddiad a ysgrifennwyd gan swyddog iechyd o’r llywodraeth sy’n beirniadu’r safonau glanweithdra yng Nghaernarfon, ac yn nodi pryderon am y cyflenwad dŵr yn y dref. Ar sail ei gyngor, cafodd rhybuddion eu codi yng Nghaernarfon yn nodi y dylid berwi’r dŵr cyn ei yfed. Cymerodd 18 diwrnod arall a 15 yn fwy o farwolaethau cyn i’r clefyd gael ei waredu, ac o ganlyniad i adroddiad y swyddog iechyd, cafodd cynllun cyflenwi dŵr newydd ei adeiladu ar gyfer y dref.

Tystysgrif ynglŷn a chyflwyniad oriawr arian a £120 i David Thomas ‘fel cydnabyddiaeth o’i ymddygiad bonheddig yn ystod y cyfnod anodd a heriol pan fu achosion o Golera yn y dref, drwy beryglu ei fywyd yn ddyddiol er mwyn gwneud popeth sydd o fewn gallu dyn i leddfu dioddefaint o’r Colera ac i rwystro’r afiechyd ofnadwy rhag lledaenu’.

Cafodd yr eitemau sy’n nodi hanes yr epidemig eu rhannu gan Wasanaeth Archifau Gwynedd fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Mae’r ymgyrch flynyddol wythnos o hyd yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod rhywbeth newydd a chyffrous yn archifau’r genedl, boed hynny’n bori drwy hanes eu teulu eu hunain neu ddarganfod straeon am bobl a lleoliadau sydd wrth galon ein cymunedau.

Erbyn 1868 roedd y Cynllun Cyflenwi Dwr newydd wedi ei gwblhau ac fe godwyd ffowntan ar y Maes i ddathlu fod gan Gaernarfon ddigonedd o gyflenwad o ddŵr glan a fod cyfnod y Colera wedi dod i ben.

Leave a Reply