Mae Llyfryn Stampiau Green Shield o’r 1960au wedi’i ddarganfod gan Archifau Cymru cyn Wythnos Archwilio Eich Archif (dydd Sadwrn 21 Tachwedd – dydd Sul 29 Tachwedd 2020).

Cyn dyfodiad catalog Argos neu’r Clubcard gan Tesco, roedd siopwyr yn ystod yr 1960au a’r 1970au yn cael Stampiau Green Shield am brynu o siopau llai, fel groseriaid, cigyddion, gwerthwyr llysiau, gwerthwyr pysgod, fferyllwyr, pobyddion, gwerthwyr baco, teisenwyr, brethynwyr, haearnwerthwyr a gorsafoedd petrol.

Llyfryn Stampiau Green Shield , Archifdy Ceredigion Archives

Roedd y stampiau’n cael eu cadw mewn llyfryn, ac roedd modd eu cyfnewid am eitemau o gatalog a oedd yn amrywio o raced tenis i gar.

Eitemau o’r catalog Green Shield, Archifdy Ceredigion Archives

Wrth i blant gobeithiol Ceredigion ddewis anrhegion Nadolig o wefannau eleni, mae lluniau o’r catalog y gallai eu mamau a’u tadau cu fod wedi ei ddefnyddio gyda’r un nod o ddylanwadu ar Siôn Corn, yn ogystal â stampiau gwyrdd gwreiddiol a llyfryn casglu, yn cael eu rhannu gan Archifau Ceredigion fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif.

Mae’r ymgyrch flynyddol wythnos o hyd – sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru – yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod rhywbeth newydd a chyffrous yn archifau’r genedl, boed hynny’n bori drwy hanes eu teulu eu hunain neu ddarganfod straeon am bobl a lleoliadau sydd wrth galon ein cymunedau.

Meddai Helen Palmer, Archifydd y Sir a Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion yn Archifau Ceredigion:
“Pan o’n i’n ifanc, byddai mam yn rhoi’r stampiau yma i fi ar ôl bod yn siopa, a fi oedd yn cael y dasg o’u llyfu nhw a’u sticio yn y llyfrau – roedden nhw’n gadael blas rhyfedd iawn ar eich tafod ar ôl ychydig! Yna, bydden i’n treulio oriau yn pori drwy’r catalog a oedd yn cynnwys popeth o deganau i setiau te, i gar Ford Escort. Wrth bori drwy’r cylchgrawn yn ddiweddar, fe sylwais i ar nifer o eitemau sy’n dal gen i mewn cwpwrdd yn y gegin – maen nhw siŵr o fod yn ‘retro’ erbyn hyn. Beth am bostio lluniau o fargeinion stampiau #GreenShield sy’n dal gennych chi o ddyddiau grŵfi’r saithdegau?”

Eitemau o’r catalog Green Shield, Archifdy Ceredigion Archives
Eitemau o’r catalog Green Shield, Archifdy Ceredigion Archives

Leave a Reply