Adnodd diwylliannol cyfoethog yw archifau, a gallant ddarparu cyfleoedd dysgu i bobl o bob oed a chefndir. Yn y blog hwn, mae Gwasanaeth Archifau Gwynedd yn esbonio’r hyn y gall eu gwasanaeth addysg ei ddarparu.
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg Gwasanaeth Archifau Gwynedd yn ôl yn 1974 gan ffurfioli trefniant blaengar gan yr hen Sir Gaernarfon o ddatblygu pecynnau dysgu yn cynnwys llungopïau o ddogfennau a lluniau gwreiddiol perthnasol i hanes y sir.
Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys un Swyddog Addysg, ac mae’r swydd sydd wedi ei rannu rhwng dau. Mae’r ddau yn gyn athrawon, gyda un ohonynt wedi ei gymhwyso yn archifydd. Ariennir y swydd yn rhannol gan Gytundeb Lefel Gwasanaeth gydag ysgolion cynradd y sir gyda dros 90% o’r ysgolion cynradd yn defnyddio’r Gwasanaeth.
Mae gofynion y gwaith yn rhannu yn dair rhan. Mae’r Swyddog Addysg yn darparu deunydd i’r ysgolion yn dilyn cais yn ymwneud â thema benodol neu ddigwyddiad. Mae’r Swyddog hefyd yn ymweld âg ysgolion gan addysgu’r dosbarth gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, sy’n cyflwyno’r gwahanol fathau o ffynonellau y gellir eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer hanes lleol neu ar gyfer astudio thema benodol. Yn ogystal pan mae ysgol yn ymweld â’r Archifdai, y Swyddog sydd yn tywys y disgyblion o amgylch yr adeilad ac yn eu cyflwyno i ddeunydd gwreiddiol.
Yn ystod 2017-2018 darparwyd 120 o becynnau a chyflawnwyd 105 o ymweliadau gan arwain at 2,639 o ddisgyblion y sir yn derbyn y Gwasanaeth. Yn ôl 100% o’r athrawon sy’n defnyddio’r Gwasanaeth mae’n gwella dealltwriaeth plant o’u hanes a’u treftadaeth. Fel y disgrifir gan yr athrawon
“Arbennig – y sesiwn wedi bod yn ysbrydoledig i’r plant ac wedi dod â’r cyfnod yn fyw iddynt”
“Mae’r plant wrth eu boddau yn cael adnoddau a chyflwyniadau fel hyn, mae’n rhoi cyfleoedd a gwybodaeth arbenigol iddynt”
“Gwnaethpwyd gwersi ychwanegol ar y pwnc yn yr wythnosau dilynol, gan ddefnyddio’r cyflwyniad / ffynonellau a ddarparwyd. Rhoddodd ddealltwriaeth well i’r disgyblion o wahaniaethau cymdeithasol / diwylliannol rhwng cyfnodau hanesyddol a’u helpu i ddehongli ystyr y ffynonellau hanesyddol”
“Mae’r deunyddiau a’r cyflwyniadau yn hyrwyddo’r dysgu mewn modd effeithiol iawn”
“Plant wedi mwynhau yn fawr iawn ac yn byrlymu ar ôl yr ymweliad”
Drwy’r gwaith hyn cynigir profiadau i blant gael meithrin amrediad o sgiliau sy’n cyfoethogi gwaith yr ysgolion, gan gefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol a hyrwyddo gwaith trawsgwricwlaidd gan gyfrannu at gyrhaeddiad disgyblion.