Mae Archifau Gwent wedi ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau.
Achrediad yw safon ansawdd y DU sy’n cydnabod perfformiad da ym mhob maes wrth ddarparu gwasanaeth archifau. Dyfernir Achrediad Gwasanaeth Archifau gan Bwyllgor Achredu Gwasanaeth Archifau y Deyrnas Unedig, sy’n cynrychioli’r sector archifau cyfan. Mae’r Gwasanaethau Archifau Achrededig yn sicrhau bod archifau ein treftadaeth yn cael eu casglu a’u diogelu a’u bod yn hygyrch yn y tymor hir. Mae ennill statws achrededig yn dangos bod Archifau Gwent wedi cyflawni safonau cenedlaethol pendant sy’n ymwneud â rheoli a darparu adnoddau; gofalu am ei gasgliadau unigryw a’r hyn sydd gan y gwasanaeth i’w gynnig i’w ystod gyfan o ddefnyddwyr.
Mae Archifau Gwent yn wasanaeth archifau rhanbarthol sy’n gwasanaethu awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Ei genhadaeth yw casglu, diogelu a sicrhau bod ei gofnodion hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r ardal y mae’n ei gwasanaethu, ar gael at ddiben ymchwil. Ers 2011 mae wedi ei leoli ar safle yng Nglyn Ebwy, sef y Swyddfa Gyffredinol sy’n adeilad rhestredig gradd 2* a chyn bencadlys Gwaith Dur Glyn Ebwy. Mae cyfleusterau storio a chadwraeth bwrpasol wedi eu hychwanegu ato erbyn hyn.
Dywedodd Tony Hopkins Archifydd y Sir: ‘Mae’r fath gyflawniad yn cydnabod y gwasanaeth o ansawdd uchel y mae Archifau Gwent yn ei gynnig i’r ymchwilydd, a’r lefel broffesiynol o ofal yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer yr archifau. Mae’n coroni pum mlynedd o waith caled ers symud i mewn i’r adeilad newydd. Mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd gan y tîm ac rwyf yn falch iawn o’r holl staff sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn. ‘
Nododd aseswyr Achredu’r Gwasanaeth Archifau bod y gwasanaeth wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf o ran ‘y gwelliannau mawr yn y gofal a roddir i’r casgliadau a’r datblygiad sylfaenol yn y cynnig sydd ar gael i rhanddeiliaid.’ Teimlai’r aseswyr bod gan y gwasanaeth ‘momentwm cadarnhaol iawn, gyda golwg ar ddatblygu o sylfaen gadarn iawn. Fe wnaethant ganmol y gweithgareddau gyda phartneriaethau lleol a grwpiau iechyd meddwl’ fel gwaith enghreifftiol i ddatblygu allgymorth i amrywiaeth o gymunedau ‘.
I gael mwy o wybodaeth am Achrediad Gwasanaeth Archifau ewch i: http://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/archive-service-accreditation.htm