Mae Archifau Ynys Môn ac Oriel Ynys Môn ar hyn o bryd yn gweithio gyda’i gilydd ar arddangosfa o’r enw ‘Bara Brith a Menyn Cartref’; ac maent newydd gael hwb ariannol o £6,300 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Trwy greu arddangosfa o gofnodion archifol a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Mawr, nod y prosiect yw adrodd hanesion trigolion Ynys Môn yn ystod y gwrthdaro. Bydd eitemau a roddwyd gan y cyhoedd, sy’n cynnwys llythyrau caru oddi wrth filwr at ei wraig yn ôl adref yn Ynys Môn, ac eitemau o’r amgueddfa a’r casgliad archifau, yn cael eu harddangos yn Oriel Ynys Môn o 16 Gorffennaf 2016. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cael ei rhannu gyda’r gymuned trwy ddau ddiwrnod agored arbennig a chyfres o weithdai ysgrifennu creadigol a gweithdai celf rhwng cenedlaethau.
Bydd y dyddiau agored i’r gymuned yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni a Neuadd y Dref Caergybi er mwyn rhoi cipolwg i drigolion Ynys Môn ar y gwrthrychau a fydd i’w gweld yn yr arddangosfa. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys plant ysgol a grŵp Heneiddio’n Dda o’r ynys a fydd yn gweithio ar y cyd gydag arlunydd i greu gwaith celf a gwaith ysgrifennu creadigol a ysbrydolwyd gan y gwrthrychau sy’n cael eu harddangos.
Mae’r arddangosfa ‘Bara Brith a Menyn Cartref’ yn cymryd ei henw o lythyr lle mae milwr yn dyheu am y cysur cartref y mae’n hiraethu cymaint amdano (bara brith gyda menyn cartref). Trwy arddangos casgliad o lythyrau sydd ar fenthyg ar gyfer yr arddangosfa hon, mae’r prosiect yn gobeithio dangos grym archifau a gwrthrychau wrth adrodd stori. Bydd y gweithdai celf ac ysgrifennu creadigol sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa yn rhoi’r cyfle i blant ac oedolion ddysgu mwy am y profiadau ar Ynys Môn yn ystod y cyfnod cythryblus hwn a hefyd yn gadael iddynt ymateb iddo trwy gelf a rhyddiaith.
Dywedodd y Prif Archifydd Hayden Burns “Rydym yn hynod falch o fod wedi derbyn y grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac rydym yn ffyddiog y bydd yr arddangosfa a’r gwaith cysylltiedig gyda’r gymuned yn cynnig persbectif newydd ar y cyfnod pwysig hwn mewn hanes. Drwy weithio gyda phartneriaid yn y gymuned, byddwn yn medru rhannu ein casgliadau gyda chynulleidfa ehangach.”

Ychwanegodd y deilydd portffolio ar gyfer Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Kenneth Hughes, “Bydd yr arddangosfa yn taro golwg hynod werthfawr ar fywyd ar flaen y gad ac yn y cartref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Hoffwn ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ei chefnogaeth ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r arddangosfa pan fydd yn agor ym mis Gorffennaf. Rwy’n sicr y bydd hi’n arddangosfa deimladwy iawn, ond yn un boblogaidd ymhlith nifer o drigolion ac ymwelwyr Ynys Môn fel ei gilydd. ”
Dywedodd Pennaeth CDyL yng Nghymru, Richard Bellamy: “Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, yn cyffwrdd ym mhawb ac yn siapio pob cornel o’r DU a thu hwnt. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri eisoes wedi buddsoddi mwy na £70 miliwn mewn prosiectau – mawr a bach – sy’n nodi’r Canmlwyddiant hwn. Diolch i’r Loteri Genedlaethol mae ein rhaglen grantiau bach, Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, yn golygu y gall mwy byth o gymunedau fel y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect Bara Brith a Menyn Cartref ymchwilio i etifeddiaeth oesol y gwrthdaro hwn ac mae’n gymorth i ehangu dealltwriaeth pobl o sut mae’r cyfnod wedi siapio ein byd modern.”