Mae Cynefin yn brosiect arloesol sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddigido holl fapiau degwm Cymru. Prif ddarpariaeth y prosiect ar hyn o bryd ydy gwefan soffistigedig cyfrannu torfol sydd wedi ei anelu roi cyfle i’r cyhoedd gyfrannu at drawsgrifio’r dogfennau degwm a lleoli’r mapiau yn ddaearyddol. Bydd y wefan, a nifer o’r mapiau sydd wedi eu digido, yn cael eu harddangos ar hyd a lled Cymru dros y flwyddyn nesaf, gan ddechrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos hon.

Caiff nifer o’r mapiau degwm eu harddangos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol a stondin Undeb Amaethwyr Cymru, a hefyd yn Y Lle Hanes  – arddangosfa newydd yn yr Eisteddfod eleni, sy’n rhoi sylw i hanes lleol. Bydd nifer o fapiau degwm o Sir Drefaldwyn i’w gweld yn yr arddangosfa hon, yn cynnwys un map degwm mawr sy’n gasgliad o fapiau degwm o ardal Meifod sydd wedi eu huno o fapiau plwyf a threfgordd llai diolch i waith gwirfoddolwyr lleol. Mae’r mapiau hyn yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am dai a phentrefi coll Cymru ac arddangosir map yn dangos Garth, plasty Gothig oedd yn sefyll yn Guildsfield, heb fod yn bell o’r Eisteddfod, ac a ddymchwelwyd yn 1947. Bydd map arall yn dangos hen bentref Llanwddyn sydd bellach o dan gronfa ddwr Llyn Efyrnwy, tra ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol bydd rhannau o fapiau Llanycil a Llanfor yn cael eu harddangos, sef y tiroedd a foddwyd yn 1965 i greu cronfa ddwr Llyn Celyn.

Bydd y cyfan o’r mapiau hyn yn cael eu harddangos ochr yn ochr a thudalennau o’r dogfennau apportionment documents, sy’n enwi’r tirfeddianwyr, y preswylwyr, y defnydd a wnaed o’r tir ac enwau’r caeau o’r 1840au pan oedd y mapiau degwm yn cael eu llunio. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y dogfennau pennu yma, ynghyd a’r mapiau yn eu gwneud yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hanes teulu a hanes lleol.

Bydd map degwm yn cynnwys safle’r Eisteddfod yn cael ei arddangos ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru, ynghyd a dogfennau sy’n rhoi gwybodaeth am y caeau, megis eu henwau hanesyddol. Yn ddiddorol iawn, gellir cymharu’r ffordd roedd enwau caeau yn cael eu cofnodi yn yr 1840au at bwrpas degwm gyda’r ffordd y mae enwau caeau yn cael eu cofnodi heddiw fel rhan o broses ar-lein SAF/RPW. Mae Cynefin ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Undeb Amaethwyr Cymru i arddangos mapiau degwm mewn sioeau amaethyddol ar hyd a lled Cymru dros y flwyddyn nesaf.

Mae prosiect Cynefin yn awyddus i ddwyn ynghyd cymaint â phosibl o bobl Cymru i drawsgrifio’r mapiau, a’u dogfennau perthnasol sy’n enwi tirfeddianwyr a phreswylwyr ar y tir, y defnydd o’r tir ac enwau’r caeau. Bydd hyn yn cyfrannu at greu adnodd ar-lein cynhwysfawr ac arloesol fydd yn ei gwneud yn hwylus i bobl gael mynediad at fapiau a dogfennau’r degwm. Darganfyddwch mwy am Cynefin a’r cyfleoedd i wirfoddoli trwy ymweld a’r wefan cynefin.cymru, neu ymweld a stondinau y Lle Hanes a’r Llyfrgell Genedalethol yn yr Eisteddfod

cynefincropped

Leave a Reply