Agorodd staff yn Archifdy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, ei ddrysau led y pen ddydd Mawrth i ddangos i’r cyhoedd beth sy’n digwydd yn y dirgel.

Archifdy Sir Benfro

Roedd cylchdeithiau o’r adeilad a rhoddwyd cyfle prin i ymwelwyr weld yr adeilad cadw lle mae mwy na 133,000 o eitemau o dreftadaeth archifol Sir Benfro – rhai’n dyddio’n ôl i 1272 – yn cael eu dal mewn amgylchedd rheoledig.

Meddai David Llewellyn, archifydd Cyngor Sir Penfro: “Mae archifau’n rhyfeddol oherwydd eu bod yn ffynonellau gwych hunaniaeth unigolion a chymunedau ac yn adnoddau dysgu ysbrydoledig. Maent yn cynnwys swm enfawr o wybodaeth o’r gorffennol i’n hysbrydoli ynghylch y presennol.”

Ymysg y gwesteion yn ystod y dydd oedd Wynne Evans, Cadeirydd y Cyngor, ac Elwyn Morse, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant.

Mae manylion oriau agor llawn y gwasanaeth ar dudalennau gwe’r Awdurdod yn: www.pembrokeshire.gov.uk/archives ac ar Weplyfr yn: www.facebook.com/PembsArchives

Leave a Reply