Mae’r National Manuscript Commission Trust (NCMT) wedi dyfarnu grant o £3,734 i Archifau Ynys Môn er mwyn diogelu 30 o luniadau technegol a chynlluniau sy’n dangos gwahanol agweddau o’r ‘TSS Colleen Bawn’ a’r ‘TSS Mellifont’.

Ar un cyfnod roedd y ‘TSS Colleen Bawn’ a adeiladwyd gan Vickers Sons & Maxim Ltd, Barrow-in-Furness yn 1903 a’i chwaer long, y ‘TSS Mellifont’, yn rhedeg gwasanaeth fferi a chludo post pwysig rhwng porthladdoedd Lerpwl a Drogheda a Chaergybi a Greenore.

Derbyniodd Archifau Ynys Môn y dogfennau fel rhodd gan weithredwr y fferi, Stena Line, er mwyn dathlu arfordir nodedig Ynys Môn yn ystod ‘Blwyddyn y Môr’ yng Nghymru yn 2018.

Dywedodd Hayden Burns, Uwch Archifydd, “er eu bod mewn cyflwr gwael, mae’r cofnodion hyn yn ychwanegiad gwerthfawr i’n casgliadau ac oherwydd hynny, roedd gwneud gwaith cadwraeth arnynt yn flaenoriaeth”. Ychwanegodd, “diolch i grant y NCMT bydd y dogfennau hyn yn awr yn cael eu glanhau, eu gwastadu a’u trwsio gan warchodwr proffesiynol. Wedi hynny, bydd y cofnodion yn cael eu catalogio a byddant ar gael i’w harchwilio yn ein hystafell chwilio gyhoeddus”.

Mae’r lluniadau’n arwyddocaol am eu bod yn rhoi gwybodaeth fanwl am y math o longau dwysgriw oedd yn gweithredu ym Môr Iwerddon yn ystod y cyfnod hwn. Maent yn bwysig hefyd oherwydd rôl hollbwysig y llongau hyn yn ystod y Rhyfel Mawr a digwyddiadau a arweiniodd at Wrthryfel y Pasg yn Iwerddon.

Am ragor o fanylion am waith y National Manuscript Commission Trust (NCMT) ewch i: https://www.nmct.co.uk/

Leave a Reply