Mae staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o bob rhan o Gymru yn bresennol mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith ffantastig sy’n cael ei wneud gan staff sy’n aml yn gweithio gydag adnoddau prin iawn.
Cafwyd ceisiadau oddi wrth lyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd o bob cwr o’r wlad. Ymhlith y categorïau roedd arddangos rhagoriaeth marchnata, prosiect cydfarchnata y flwyddyn a hyrwyddwr marchnata y flwyddyn ym mhob sector.
Fe gafodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn Aberystwyth gyfle i glywed gan y beirniad Jonathan Deacon, Athro Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru ac Ymddiriedolwr Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru. Dywedodd yr Athro Deacon: ‘Bûm yn beirniadu’r gwobrau hyn ers iddyn nhw ddechrau rai blynyddoedd yn ôl, ac mae dyfeisgarwch a syniadau arloesol y staff mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yn dal i wneud argraff arnaf.
‘Mae llawer o’r ceisiadau yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda chyllideb fach iawn ac mae’r syniadau yn enghreifftiau o arferion marchnata y gellid eu defnyddio mewn unrhyw fusnes neu sefydliad o fewn Cymru.’
Roedd yr enillwyr yn derbyn tlws a thystysgrif, ynghyd ag amryw o wobrau gan gynnwys iPad Mini, Camera Drone a Gweithdy Hannewr Diwrnod ym Mhrifysgol De Cymru.
Dyma ganlyniadau Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata 2017:
Arddangos Rhagoriaeth Marchnata
Llyfrgelloedd Cyhoeddus
- Y Safle Cyntaf – Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin – Marchnata E-Adnoddau
- Canmoliaeth Uchel – Llyfrgelloedd Caerffili – Ymgyrch Twitter
- Canmoliaeth Uchel – Cyngor Wrecsam – Carnifal Geiriau
Addysg Bellach
- Y Safle Cyntaf – Colegau Castell-nedd Port Talbot – Keep your Weekends Free… Save in 3
- Canmoliaeth Uchel – Grŵp Llandrillo Menai – Borrow a Cook for Christmas Lucky Dip
Addysg Uwch
- Y Safle Cyntaf – Prifysgol Abertawe – Survive & Thrive
- Canmoliaeth Uchel – Prifysgol Caerdydd – Spotlight on you Reading Lists
Archifau
- Archifau Ceredigion – Blas ar y Gorffennol
Amgueddfeydd
- Y Safle Cyntaf – Amgueddfa Stori Caerdydd – We Are 5
- Canmoliaeth Uchel – Amgueddfa Criced Cymru – The Six Ball Offer
- Canmoliaeth Uchel – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – Fferm Bryn Eryr
Gwobrau Cydfarchnata
Llyfrgelloedd
- Y Safle Cyntaf – Estyn Allan – Blwyddyn o Ddarllen Beiddgar
- Canmoliaeth Uchel – Llyfrgelloedd Caerffili – Dementia Friends Reunited
- Canmoliaeth Uchel – Caerdydd – Google Developer Group
Hyrwyddwyr Marchnata y Flwyddyn
Llyfrgelloedd
- Y Safle Cyntaf – Damon Christopher a Marcus Edwards – Llyfrgelloedd Caerffili
- Canmoliaeth Uchel – John Brodrick – Llyfrgelloedd Merthyr Tudful
Amgueddfeydd
- Y Safle Cyntaf – Shirley Williams – Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- Canmoliaeth Uchel – Laura Sims – Oriel Gelf Glynn Vivian
Archifau
- Y Safle Cyntaf – Rebecca Sheilds – Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg