Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ennill Achrediad Gwasanaethau Archifau, cynllun safonau a weithredir ledled y DU.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan bartneriaeth sy’n cynnwys Yr Archifau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, trwy CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Nod yr Achrediad yw cydnabod ymarfer da a chytuno ar safonau a thrwy hynny sicrhau bod treftadaeth archifol y DU yn cael ei chynnal a’i gwarchod ac ar gael i bawb yn y tymor hir.
Papyri Oxyrhynchus – darnau o bapyrws sy’n cynnwys manylion am bywyd bob dydd yn yr Aifft ac sy’n dyddio o 113 OC hyd y 4edd ganrif – yw’r eitem gynharaf yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n dal 2,500 o gasgliadau archifol a 30,000 o lawysgrifau.
Mae papurau Lloyd George ymhlith cofnodion yr archif wleidyddol, ac mae’r Llyfrgell yn dal archifau personol rhai o lenorion mwyaf Cymru, gan gynnwys Dylan Thomas a Saunders Lewis.
Mae trysorau megis Cyfreithiau Hywel Dda a Llawysgrifau Peniarth hefyd ymhlith casgliadau’r Llyfrgell. Fe gafodd Casgliad Llawysgrifau Peniarth, sy’n cynnwys y llawysgrif Gymraeg gynharaf, Llyfr Du Caerfyrddin, yn ogystal â llawysgrif gynnar o Chwedlau Caergaint Geoffrey Chaucer, ei gynnwys yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO ar gyfer y DU yn 2010.
Meddai’r Panel Achrediad Gwasanaethau Archifau:
“Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru genhadaeth glir a rôl genedlaethol unigryw sy’n llywio pob agwedd ar ei gwaith. Mae ei gweithgaredd blaengar ym maes cadwraeth ddigidol, ei harweiniad o ran diffinio strategaeth gadwraeth genedlaethol a’r ffordd greadigol y mae’n datblygu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr ymhlith ei chryfderau niferus.”
Meddai Avril Jones, Cyfarwyddwraig Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus:
“Mae’r achrediad yn gydnabyddiaeth sylweddol o’r ffordd y mae’r Llyfrgell yn llwyddo i warchod treftadaeth archifol gyfoethog Cymru a sicrhau mynediad i’r archif honno. Mae’r achrediad hefyd yn adlewyrchu sgiliau a gofal ein gweithlu ymroddedig.
“Fel rhan o’r broses o sicrhau’r achrediad, fe gafodd bob agwedd ar ein gwasanaeth rheoli casgliadau ei graffu – ac mae’n dda gennym ddweud i’r gwasanaeth hwnnw gyrraedd y safonau disgwyliedig. Mae’r achrediad hefyd yn gydnabyddiaeth o’r ffordd yr ydym yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr, yn y Llyfrgell ei hun ac ar-lein.”