Ar hyn o bryd, dim ond cyfran fechan o’n casgliadau cyffredinol yw ein casgliadau digidol. Wrth symud ymlaen, fodd bynnag, bydd casglu a gofalu am ddeunydd sydd wedi’i ‘eni’n ddigidol’ yn dod yn fwyfwy pwysig os ydym eisiau i’n casgliadau barhau i adlewyrchu bywyd yn ein hardal.

Cymerwch un enghraifft, ffotograffau. Fel y rhan fwyaf o archifau, mae gennym gasgliadau mawr o ffotograffau sy’n dyddio’n ôl i ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth yng nghanol y 19eg ganrif. Gyda dyfodiad ffotograffiaeth ddigidol ac, yn enwedig, ffonau clyfar, mae pobl yn tynnu llawer mwy o luniau nag erioed o’r blaen ond faint o’r rhain fydd byth yn cael eu cynnwys yng nghasgliadau archif y dyfodol? Mae llawer o’n ffotograffau, fel llawer o rai eraill yn ein casgliadau, wedi dod atom gan bobl sy’n mynd trwy hen eiddo’r teulu a ddim eisiau eu taflu. Pwy, yn awr neu yn y dyfodol, sy’n mynd i straffaglu trwy filoedd ar filoedd o ffotograffau digidol wedi’u storio ar ffonau, yn y cwmwl neu ar gyfrifiaduron cartref a meddwl ‘gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol i’r archif leol’?

Ar wahân i’r problemau o argyhoeddi pobl i ystyried cyfrannu lluniau digidol, mae problemau technolegol wrth eu cadw pan fyddant yn gwneud hynny. Mae eitemau ‘wedi’u geni’n ddigidol’ o unrhyw fath yn hynod fregus -a hynny i ddileu damweiniol, llygredd y caledwedd y cânt eu storio arno, newidiadau tymor hir yn y fformatau ffeiliau a’r feddalwedd gyfrifiadurol a’r caledwedd a ddefnyddir i gael mynediad atynt a thrwy ‘bydredd did’ ymhlith pethau eraill. Rydym yn storio ein ffotograffau ffisegol mewn storfa ddiogel sy’n cael ei rheoli’n amgylcheddol yn ein hystafell archif gadarn ac nid oes problem wrth estyn am ffotograff 150 mlwydd oed i gwsmer ei weld. Dychmygwch sut y gallem sicrhau bod modd i rywun agor a gweld ffeil JPEG a grëwyd heddiw mewn 150 mlynedd!

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Archifau Conwy wedi dod yn ddefnyddwyr y system cadwraeth ddigidol fasnachol, Preservica, i’n helpu i sicrhau diogelwch a defnyddioldeb tymor hir ein holl gasgliadau digidol gan gynnwys ffotograffau digidol. Golyga hyn y bydd ffotograffau digidol fel yr un hwn sy’n cofnodi Ffair Fêl Conwy 2025:

A vendor at the Conwy Honey Fair stands at a market stall filled with jars of honey, baked goods, and other products, with a decorative tablecloth and potted plants, in front of a grey building.
©Archifau Conwy

yn cael eu cadw i ddogfennu’r ffair hynafol hon (sy’n dyddio’n ôl dros 700 mlynedd) ochr yn ochr â’n ffotograffau ffisegol o’r ffair fel yr un yma a dynnwyd tua 1950:

A photograph from 1950 shows two men and a woman engaging in conversation at the Conwy Honey Fair near a table displaying jars, with a sign for 'Castle Hotel Private Car Park' in the background.
©Archifau Conwy

Bydd ein ffotograffau yn y dyfodol yn adrodd cymaint o stori â rhai o’n gorffennol, ac wrth i ni fynd ymhellach i mewn i’r oes ddigidol gyda JPEGS a TIFF yn disodli ffilm a polaroid, mae cadwraeth ddigidol yn bwysicach nag erioed ar gyfer diogelu ein hanes.

Elisabeth Parfitt, Archifau Conwy
https://diwylliantconwy.com/cenfdir-diwylliant/archifau

Leave a Reply