Cyn gynted ag y clywais am brosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru, roeddwn i’n gwybod bod hyn yn rhywbeth y byddai Archifau Conwy eisiau bod yn rhan ohono. Llofnodwyd Deiseb Heddwch Menywod Cymru rhwng 1923-1924 gan bron i 400,000 o fenywod, cyn cael ei chymryd gan ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau, lle bu’n mynd yn angof mewn llyfrgell brifysgol am flynyddoedd lawer. Gofynnodd y ddeiseb i fenywod Americanaidd rho bwysau ar America i ymuno a Chynghrair y Cenhedloedd. Wedi’i hailddarganfod a’i dychwelyd i Gymru, mae’r ddeiseb wedi dod yn ganolbwynt prosiect gydag ymdrechion i ddigideiddio a thrawsgrifio’r cynnwys. Drwy ddarparu mwy o hygyrchedd, bydd y prosiect yn arwain at ymchwil a gweithgareddau sy’n archwilio ac yn dathlu’r menywod hyn a’u straeon cudd.

Staff Archifau Conwy yn cyflwyno ar y prosiect i gynulleidfa sy'n eistedd

Roedd ein gweithgaredd partneriaeth gyntaf gyda’r prosiect a’u swyddog allgymorth yng Ngogledd Cymru, Lowri Kirkham, yn sgwrs ar y prosiect a oedd yn gyfle i rannu rhai o’r straeon yr oeddem eisoes wedi’u darganfod am rhai o’r merched lleol sydd wedi’i enwi ar y ddeiseb. Roedd hefyd yn gyfle i Lowri i recriwtio trawsgrifiwyr. Ar noson rewllyd ym mis Ionawr cawsom bresenoldeb da i glywed Lowri a minnau yn cyflwyno. Roeddwn i wedi dod o hyd i ferched lleol oedd wedi arwyddo’r ddeiseb heddwch ar ôl colli sawl gwŷr yn y rhyfel, er enghraifft Ellen Williams o Lanfairfechan a gollodd ddau fab o fewn pythefnos i’w gilydd wrth i’r rhyfel ddod i ben. Hefyd Catherine Dunphy, fenyw o deulu adnabyddus o groseriaid Llandudno, a oedd wedi colli ei mab Bernard pan gafodd ei long ei chwalu yn 1915. Ond datgelodd y ddeiseb hefyd fenywod heblaw mamau sy’n galaru; menywod ifanc fel Doris Millerchip, a weithiodd yng Nghaffi Caergrawnt, Llandudno ac a lofnododd y ddeiseb ynghyd â’u pennaeth, Elsie Payne.

Cynhaliwyd ail ddigwyddiad yn yr ystafell ymchwil ym mis Ebrill, a oedd yn gyfle i bobl alw heibio i ddarganfod mwy am gymryd rhan mewn trawsgrifio neu ymchwilio’r ddeiseb, neu ddarganfod sut y gallent ddod o hyd i hynafiad benywaidd a oedd wedi llofnodi’r ddeiseb. Cofrestrodd unrhyw drawsgrifiwyr gyda Lowri, a chanolbwyntiodd staff yr archif ar ymholiadau hanes y teulu.

Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn i oedolion roedd Lowri wedi recriwtio’r artist Rachel Evans i weithio gyda dwy ysgol gynradd leol i greu arddangosfa a ysbrydolwyd gan y ddeiseb heddwch menywod o’r enw “Merched Cudd”. Roedd lansiad yr arddangosfa yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ar 20 Mehefin (lle mae’r gwasanaeth archif wedi’i leoli) yn boblogaidd iawn a bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos tan fis Medi. Mae staff yr Archif wedi mwynhau gweithio gyda’r prosiect hwn yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at weld yr holl enwau’n cael eu trawsgrifio. Ar wahân i’r agwedd hanes cymdeithasol, bydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hanes teuluol a hanes tŷ.

Delweddau o waith celf a ysbrydolwyd gan y ddeiseb heddwch ©Rachel Evans. Gallwch ddilyn Rachel ar Instagram: @rachelevans_celf

Archifau Conwy
https://diwylliantconwy.com/visit-culture/archifau-conwy

Leave a Reply