Mae delwedd wedi cael ei rhyddhau gan brosiect Cynefin sy’n dangos y cynnydd ar waith i uno mapiau hanesyddol i greu map degwm unedig o Gymru gyfan.

Mae’r ddelwedd yn dangos maint y gwaith sydd ynghlwm wrth greu map degwm cyflawn a fydd yn gorchuddio 95% o Gymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 1,200 o fapiau unigol wedi cael eu trwsio a’u digido. Ar ôl eu digido, mae’r mapiau yn cael eu rhoi ar-lein ar wefan cynefin.cymru lle mae gwirfoddolwyr yn eu geogyfeirio a chlipio er mwyn lleoli a diffinio ffin pob plwyf neu dref. Mae’r ddelwedd yn dangos yn union faint o waith sydd wedi ei gwblhau gan wirfoddolwyr, a faint sydd ar ôl i’w wneud.

cynefin_ffiniau_plwyfi_1200-725x1024

Bydd y map unedig yn cael ei geogyfeirio yn fanwl er mwyn ei gymharu yn hawdd gyda haenau eraill o fapiau modern a hanesyddol. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gwneud gwaith trawsgrifio ar-lein; a bydd hyn yn gwneud y map yn gwbl chwiliadwy drwy blatfform ar-lein rhad ac am ddim. Bydd modd chwilio a dod o hyd i berchnogion tir, deiliaid tir ac enwau caeau o’r 1840au ar draws Gymru. Mi fydd hefyd yn bosib pori’r map yn ddaearyddol, a’i chwyddo i weld yr holl gaeau unigol, yn ogystal â manylion megis adeiladau a choetiroedd.

Cynhyrchwyd y ddelwedd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd wedi ail-leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddar. Dyma’r tro cyntaf i’r prosiect gynhyrchu cipolwg o’r map unedig terfynol. O ganlyniad, gall gwirfoddolwyr nawr weld yn gyfleus pa ardaloedd sydd angen rhagor o waith.

Leave a Reply