Mae Cymru yn baradwys i gerddwyr, ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o dirweddau, o fynyddoedd creigiog i gefn gwlad ac arfordiroedd dramatig.
Mae Cymru’n denu twristiaid o bob cwr o’r byd, llawer ohonynt yn dod i fwynhau heicio a cherdded. Mae gennym nifer o lwybrau enwog: Pen y Fan, Yr Wyddfa, heb anghofio Llwybr Arfordir Cymru, sy’n ymestyn am 870 milltir ar hyd yr arfordir cyfan!
Edrychwch ar yr eitemau hyn a gedwir gan archifau Cymru i gael syniad o’r hyn a allai fod yn eich archif leol.
Mae’r delweddau hyn o Wasanaeth Archifau Conwy yn dangos rhannau o Erddi Bodnant. Saif y gerddi ar dir Neuadd Bodnant, ger Conwy. Crëwyd y gerddi gan bum cenhedlaeth o’r un teulu, gan gael eu rhoi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1949. Maen nhw’n parhau i fod yn hynod boblogaidd, ac mae dros 250,000 o bobl yn ymweld â nhw bob blwyddyn!
Llwybr Dell a Theras, Gerddi Bodnant, dim dyddiad. Eitem o Wasanaeth Archifau Conwy yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Mae’r ffotograff hwn, hefyd gan Wasanaeth Archifau Conwy, yn dangos llwybr carreg gamu dros Afon Conwy. Yn fan poblogaidd i ymwelwyr Fictoraidd â Betws-y-Coed, mae’n debyg mai nhw oedd y groesfan gynharaf o’r afon ac fe’u defnyddiwyd tan 1912 pan gafodd rhywun ddamwain a chwympo oddi arnynt. Nid ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.
Y cerrig camu, Betws-y-Coed, dim dyddiad. Eitem o Wasanaeth Archifau Conwy yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Mae’r gyfres hon o daflenni gwybodaeth o 1975 ar Dwyni Ynyslas yn dangos bod diddordeb y cyhoedd mewn natur a chadwraeth wedi aros yn gyson dros amser, er bod gan eitemau’r dyddiau hyn lawer mwy o luniau yn aml!
Taflenni gwybodaeth Twyni Ynyslas (rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi), a gynhyrchwyd gan y Cyngor Gwarchod Natur, 1975. Eitem o Archifdy Ceredigion.
Mae yna hefyd lawer o eitemau yn ymwneud â bywyd gwyllt yn yr archifau. Mae eitemau fel y rhain yn bwysig i’w cadw gan eu bod yn dweud wrth genedlaethau’r dyfodol sut y cafodd y cyhoedd (a phlant) wybod am anifeiliaid yn y gorffennol, a pha wybodaeth oedd yn ddiddorol iddyn nhw!
Rhan o’r gyfres Iau yn dangos 15 trac mamal cyffredin, 1979. Eitem o Archifdy Sir Benfro.Rhan o’r gyfres Iau yn dangos 15 trac mamal cyffredin, 1979. Eitem o Archifdy Sir Benfro.Rhan o’r gyfres Iau yn dangos 15 trac mamal cyffredin, 1979. Eitem o Archifdy Sir Benfro.Map lluniau o’r enw ‘The Great Nature Trail of Wales, a baratowyd gan Fwrdd Croeso Cymru yn eu Blwyddyn Treftadaeth Amgylcheddol, 1984-1985. Eitem o Archifdy Ceredigion.Map lluniau o’r enw ‘The Great Nature Trail of Wales, a baratowyd gan Fwrdd Croeso Cymru yn eu Blwyddyn Treftadaeth Amgylcheddol, 1984-1985. Eitem o Archifdy Ceredigion.Map lluniau o’r enw ‘The Great Nature Trail of Wales, a baratowyd gan Fwrdd Croeso Cymru yn eu Blwyddyn Treftadaeth Amgylcheddol, 1984-1985. Eitem o Archifdy Ceredigion.
Wrth gwrs, byddai unrhyw flog am gerdded yng Nghymru yn anghyflawn heb sôn am ein Llwybr Arfordirol, sef y llwybr cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir gwlad yn ei gyfanrwydd.
Wedi’i agor yn 1970, Llwybr Arfordir Penfro oedd y Llwybr Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ac mae’n un o’r prif atyniadau yn Sir Benfro. Mae’n ymestyn o Amroth yn y de i Draeth Poppit yn y gogledd. Dyma’r cardiau cyntaf ac olaf o gardiau Cyfres Llwybr Arfordir y PCNP sy’n mapio’r llwybr. Ar gefn y cardiau mae manylion rhai o’r safleoedd diddorol ar hyd y daith.
Cardiau cyntaf ac olaf cardiau Cyfres Llwybr Arfordir PCNP yn mapio llwybr o Amroth i Draeth Poppit, mae’r cefn yn dangos manylion rhai o’r safleoedd diddorol, tua 1980.Cardiau cyntaf ac olaf cardiau Cyfres Llwybr Arfordir PCNP yn mapio llwybr o Amroth i Draeth Poppit, mae’r cefn yn dangos manylion rhai o’r safleoedd diddorol, tua 1980.Cardiau cyntaf ac olaf cardiau Cyfres Llwybr Arfordir PCNP yn mapio llwybr o Amroth i Draeth Poppit, mae’r cefn yn dangos manylion rhai o’r safleoedd diddorol, tua 1980.Cardiau cyntaf ac olaf cardiau Cyfres Llwybr Arfordir PCNP yn mapio llwybr o Amroth i Draeth Poppit, mae’r cefn yn dangos manylion rhai o’r safleoedd diddorol, tua 1980.
Mae gan Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro hefyd gasgliad helaeth o ddogfennau gweinyddol a chyhoeddiadau sydd wedi’u cynllunio i addysgu twristiaid am yr ardal. Maen nhw’n cynnwys y dogfennau hyn am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ddynodwyd yn barc cenedlaethol ym 1952. Mae’n ymestyn dros 200 milltir sgwâr, yn bennaf ar hyd yr arfordir.
Dogfennau amrywiol yn ymwneud â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Eitemau o Archifau Sir Benfro.
Mae dogfennau a gedwir yn ein harchifau yn ein hatgoffa bod natur Cymru, i bobl leol a thwristiaid, wedi bod yn boblogaidd ers amser maith, ac y dylem gynnal y natur honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae dros 1,000 o focsys yn Sgriptiau’r BBC (Rhodd 2019), yn cynnwysbron â 250,000 o sgriptiau teledu a radio sy’n ymestyn dros 80 mlynedd o 1931 ymlaen. Rwy’n credu ei bod yn ddiogel i ddweud bod y casgliad yn cynnwys rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i bawb. Mae’r sgriptiau teledu a radio yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel chwaraeon, celf a cherddoriaeth, drama, straeon, newyddion, apeliadau, crefydd, ysgolion, sioeau amrywiaethol a rhaglenni plant. Mae’n berffaith ar gyfer mynd ar daith i lawr lôn atgofion.
Beth oedd eich hoff raglenni radio a theledu pan oeddech chi’n iau? Ai’r dramâu Awr y Plant oedd yn cael eu darlledu’n ddyddiol dros y radio, neu efallai roeddech yn mwynhau gwylio Bilidowcar?
Mae yna straeon hudolus am gestyll tywod, tywysogesau a thywysogion, môr-ladron, y Mabinogion, y Brenin Arthur, a sgriptiau Gari Tryfan, heb son am amryw o ddramâu. Mae yna sgript gynnar, ‘sgript ymarfer’, wedi’i hysgrifennu gan Gwenlyn Parry ar gyfer Pentrefelin – rhaglen a fyddai’n cael ei hailenwi’n ‘Pobol y Cwm’, y rhaglen sebon teledu Cymraeg hiraf, ac mae’r sgript wedi cael ei harddangos yn arddangosfa Trysorau’r Llyfrgell.
Yn anffodus, mae rhai sgriptiau yn anodd eu darllen fel newyddion torcalonnus Aberfan.Maen nhw’n adnodd cyfoethog o hanes oherwydd maent yn cynnwys newyddion cafodd eu darlledu yn ddyddiol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gyda rhaglenni newyddion o 1939 tan 1997, efallai y byddech yn darganfod beth oedd yn y newyddion ar y diwrnod cawsoch chi eich geni? Neu gyda sgriptiau rhaglenni chwaraeon o 1953 i 1997, efallai y dewch chi o hyd i sgript o gêm bêl-droed, gêm rygbi neu dwrnamaint arall yr oeddech wedi gwylio ar deledu, neu ei wrando ar y radio. Efallai, o bosib, roeddech chi yno?
Gellir defnyddio’r sgriptiau gyda chasgliadau eraill yn y Llyfrgell fel T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams, Emyr Humphreys, ac yr Archifau Gwleidyddol a Cherdd. I gyd-fynd â rhai o’r sgriptiau, mae arnodiadau ysgrifenedig a dwdlau sy’n ychwanegu at eu gwerth a’u diddordeb. Mae’r arnodiadau hyn yn cynnig cipolwg at y broses o ysgrifennu sgriptiau.
Rydych chi’n gallu gweld y gwahaniaeth o’r sgript wreiddiol a’r sgript orffenedig a fyddai’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu. Mae rhai sgriptiau yn ‘sgriptiau camera’ sy’n rhoi naws ddiddorol tu ôl i’r llenni i sut cafodd y rhaglenni eu creu. Mae’r sgriptiau yma yn adnodd da i’r rhai sy’n astudio ffilm neu deledu. Nid yw mwyafrif y sgriptiau hyn wedi cael eu catalogio eto, ond mae llawer iawn yn y catalog yn barod, a bydd mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd. Gewch chi ddod a hyd o’r catalog yma. Os ydych yn chwilio am rywbeth, neu oes gennych chi ddiddordebau, ac nac oes sgriptiau yma yn ein catalog hyd yn hyn, cysylltwch â ni trwy gofyn@llgc.org.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Yn ddiweddar, canfuwyd cwilsyn gwreiddiol yn AGDdC, Penarlâg, wedi’i wasgu rhwng dalenni llyfr achwyniadau Llys Treffynnon o’r 19eg ganrif, yn dyddio’n ôl i’r 1850au. Roedd y llyfr yn cael ei ail becynnu gan wirfoddolwyr, a oedd yn llunio blwch unigryw i gadw copi gwreiddiol a bregus o Lyfr y Llys. Mae’r cwilsyn yn wyn ac yn edrych fel y petai’n perthyn i wŷdd neu alarch. Mae’n bosib gweld yr inc ar y nib, sydd wedi’i lunio’n berffaith. Mae ysgrifen llyfr y Llys yn glir iawn, felly mae’n amlwg ei fod yn gwilsyn o ansawdd da. Mae’n ymddangos fel petai’r Clerc wedi’i roi i lawr ac wedi anghofio amdano…. ac yna fe ddaeth i’r golwg gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach!
Y Cwilsyn, wedi’i wasgu rhwng dalenni Llyfr Llys TreffynnonFrances, gwirfoddolwr, yn creu blychau unigryw ar gyfer llyfrau hanesyddol y Llys
Gwaith Clerc y Llys oedd cadw cofnodion holl achosion y llys a ffioedd y llys. Llofnod Clerc y Sir rhwng 1852 a 1856 oedd llofnod Samuel Williamson, mab hynaf William Williamson o Greenfield House – hen deulu o Dreffynnon. Ganwyd Samuel Williamson ym 1804. Cafodd yrfa lwyddiannus fel Cyfreithiwr lleol ac yr oedd yn Gadeirydd y Bwrdd Lleol yn ogystal â bod yn Glerc y Llys Sirol. Yng Nghyfrifiad 1861 yr oedd yn byw ym Mhendre House, Whitford Street, gyda’i wraig Mary Ann, dau o blant, a thri o weision neu forwynion. Yn ôl Return of Owners of Land, 1873, yr oedd “Samuel Williamson Esq.” yn berchen ar 38 erw, 2 rwd a 39 perc o dir yn Nhreffynnon, yn rhoi rhent blynyddol o £44-2s.
Pan fu farw ym 1885 yn 81 mlwydd oed, argraffwyd ysgrif goffa yn y Flintshire Observer (10 Rhagfyr 1885) a oedd yn datgan ei fod yn cael ei barchu’n gyffredinol am ei uniondeb a’i ymddygiad bonheddig. Mae’n ymddangos yn debygol bod y cwilsyn a ganfuwyd yng nghanol dalennau llyfr y Llys yn perthyn iddo fo.
Defnyddiwyd cwilsynnau am ganrifoedd ym Mhrydain a gwledydd eraill fel teclynnau ysgrifennu, ac roedd y plu ar gyfer y cwilsynnau yn cael eu cymryd yn bennaf gan wyddau, elyrch a brain; ond weithiau byddai estrys, tyrcwn ac adar eraill yn cyfrannu hefyd.[1] Roedd yn cymryd amser a sgil i baratoi plu i’w defnyddio fel cwilsynnau, gan docio’r nib yn fanwl. Gellir defnyddio plu gwahanol adar at wahanol ddibenion: yn gyffredinol defnyddiwyd plu hwyaid fel ysgrifbinnau; tra defnyddiwyd cwilsynnau brain ar gyfer darluniau manwl, gan fod modd creu pwynt mân arnynt. [2] Yn ôl y ‘Cyclopaedia of Useful Arts’ (1845), byddai gwneuthurwr cwilsynnau yn cynhyrchu oddeutu 1,200 o binnau’r dydd! Yn y flwyddyn 1840, cynhyrchwyd dros 22 miliwn o gwilsynnau ym Mhrydain i’w defnyddio gartref.
Roedd cwilsynnau yn bethau cain, ac yn aml roedd yn rhaid i’r defnyddiwr eu minio a’u trwsio, gyda chyllell oedd yn cael ei hadnabod fel cyllell binnau. Roedd yn waith rhwystredig a oedd yn cymryd cryn dipyn o amser, gan nad oedd nib y cwilsyn yn para’n hir iawn a gallent ddirywio’n gyflym. Roedd yr amser a dreuliwyd yn trwsio a minio cwilsynnau yn sylweddol ac yn rhannol egluro pam y bu dirywiad yn eu defnydd erbyn y 1850au – pan ddaeth pinnau dur, wedi’u gweithgynhyrchu ym Mirmingham o Ddur Sheffield gan amlaf, yn boblogaidd iawn. [3]
Fodd bynnag, roedd rhai yn parhau i ffafrio plastigrwydd a hydrinedd cwilsyn dros nib caled, anhyblyg y pinnau dur. Ym maes y gyfraith, gan gynnwys yn swyddfeydd y Llys a’r Llywodraeth, roedd y cwilsyn yn parhau i gael ei ystyried cyn hwyred â’r 1880au mor ‘amhrisiadwy â thâp coch’. Y gred oedd bod cwilsynnau yn gwella safon yr ysgrifen ac yn llai tebygol o achosi cramp ysgrifennwr na phinnau dur. [4] Ym 1884, roedd yr hysbyseb ganlynol ar gyfer cwilsynnau mewn cyfnodolyn masnach yn gwarantu rhai a dorrwyd â llaw, gan sicrhau bod y nib yn berffaith ac nad oes modd cael hynny gyda phinnau wedi’u torri gan beiriant. [5]
Hysbyseb o’r British Trade Journal (atodiad), Hydref 1884
Felly, ni fu dirywiad llwyr yn y defnydd o gwilsynnau hyd yn oed erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Mae cofnodion Llys Sirol Treffynnon, rhwng 1847 a 1965 yn cael eu cadw yn AGDdC, Penarlâg. Roedd Llysoedd Sirol yn yr Wyddgrug a Threffynnon yn Sir y Fflint; a Dinbych, Llanrwst, Rhuthun a Wrecsam yn Sir Ddinbych; ac yng Nghorwen (Sir Feirionnydd). Cedwir cofnodion Sir Ddinbych yng nghangen Rhuthun AGDdC. Mae rhai cofnodion cynnar o lysoedd Rhuthun a Wrecsam sydd heb eu trosglwyddo i’r archifau ac fe dybir eu bod ar goll.
Lluniwyd Llysoedd Sirol, a oedd yn ymdrin ag achosion sifil, o dan Ddeddf Llysoedd Sirol 1846. Rhannwyd Cymru a Lloegr yn rhanbarthau, wedi’u grymuso i brynu tir i adeiladu llys. Diben y llysoedd oedd gwrando ar achosion sifil, mewn cyfarfodydd misol gan amlaf. Roeddent yn ymdrin ag achosion i adennill mân ddyledion o gontractau, ymddiriedolaethau, profiant ac eiddo. Swydd Clerc y Llys oedd cadw cofnodion o’r holl achosion yn y llys a chyfrifon ffioedd y llys. Bydd y cwilsyn ‘coll’ o Lys Sirol Treffynnon yn cael ei baratoi gan ein Cadwraethwr a’i gadw fel arteffact ar gyfer y dyfodol, gyda chofnodion y Llys. [Cyf: C/A/4, Llyfr Cofnod ac Achwynion, 1852-1856, Llys Sirol Treffynnon]. Roedd dod o hyd i’r cwilsyn yn un o’r adegau hudolus hynny lle y daw hanes yn fyw drwy’r archifau. Gellir gweld y cofnodion yn AGDdC. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
[1] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.
[2] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.
[3] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.
[4]The British Trade Journal, (1 Tachwedd 1884), t.644.
[5] Atodiad i’r British Trade Journal, (Hydref 1884), p.iii.
Er gwaethaf realiti erchyll rhyfel, mae gan y Nadolig bŵer unigryw i godi ysbrydion.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd parhaodd cyfnewid cardiau Nadolig, er gwaethaf y gwrthdaro, gan ddangos ychydig o wytnwch yr ysbryd dynol.
Dyma ddetholiad o gardiau Nadolig adeg y rhyfel o archifau Cymru:
Derbynnydd y Cerdyn Nadolig hwn o 1916 oedd y Prif W.P. Wheldon a wasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc Rhagfyr 1914-1918. Harold Williams o’r Llu Alldeithiol Prydeinig (BEF) yw’r anfonwr. Dioddefodd Bataliwn Mawr Wheldon anafiadau difrifol ym mis Gorffennaf 1916 yng Nghoedwig Mametz ar y Somme ac yn 3ydd brwydr Ypres ym 1917.
Wedi’r rhyfel daeth Wheldon yn Ysgrifennydd a Chofrestrydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) tan 1933 pan benodwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg. Rhoddodd Wheldon gasgliad yn cynnwys dyddiaduron rhyfel 1916-1918 gan roi diweddariad dyddiol o weithgareddau maes y gad ar Ffrynt y Gorllewin i Brifysgol Bangor ym 1948. Mae’r cerdyn hwn (BMSS/39635(i)) ac mae’r casgliad ar gael yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor (BMSS/7059-7060).
Mae’r un yma o wedi’r rhyfel yn enghraifft o’r math o gerdyn a anfonwyd gan filwyr oedd yn dal yn Ffrainc ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben ac fe’i hanfonwyd yn 1918 gan Pat Wainwright o Fae Colwyn at Norman Tucker (1894-1972) a aeth ymlaen i fod yn hanesydd lleol adnabyddus yn ardal Conwy. Mae Archifau Prifysgol Bangor yn cadw ei bapurau, gan gynnwys y cerdyn hwn (CP149/1/7).
Dyma ychydig o enghreifftiau o gardiau Nadolig adeg y rhyfel, a gedwir gan Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys un sy’n dangos un o rolau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r enghreifftiau hyn o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn enghraifft o gerdyn Nadolig a anfonir yn ôl adref, gyda dim ond llinell doredig i’w phersonoli (a’r 8 x ychwanegol oddi tanynt).
Tybed, beth am y Nadolig a gadwodd y traddodiad hwn o gardiau i fynd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, efallai mai’r hwb morâl y mae anfon a derbyn cardiau yn ei roi, y cysylltiad y mae’r cardiau hyn yn ei roi i filwyr adref.
Mae’n ddiwedd wythnos Archwilio Eich Archif, a’r thema olaf yw #EichArchif. Felly, byddwn yn edrych ar heriau cadw eitemau’n ddiogel ar gyfer y dyfodol, ac yn rhannu rhai awgrymiadau ar sut i sicrhau hirhoedledd eich papurau gartref a’i gwneud yn haws i archifwyr os ydynt byth yn dod yn rhan o archif.
Er mwyn diogelu archif eich cartref yn well ac i wneud bywyd yn haws i archifwyr y dyfodol, mae rhai arferion allweddol i’w hystyried.
Yn gyntaf, mae’n bryd ffarwelio â chlipiau papur safonol, wrth iddynt rydu a difrodi eitemau dros amser. Dewiswch glipiau papur pres neu ystyriwch ddulliau amgen o gysylltu’r eitemau yn lle. Diolch byth cafodd y clipiau papur hyn eu tynnu allan o gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd cyn iddynt allu rhydu ymhellach.
Osgoi defnyddio tâp gludiog. Mae’n aml yn achosi difrod a gall fod yn her ei symud yn ofalus heb achosi niwed pellach, fel y dangosir yn y ddelwedd hon o gadwraethwr yn Archifau Morgannwg.
Nesaf, labelwch eich eitemau. Yn aml bydd archifwyr yn dod o hyd i bapurau heb unrhyw gyd-destun ar gyfer beth yw’r eitem. Gall y weithred fach hon wneud y broses archifo yn llyfnach ac yn fwy effeithlon. (Os ydych chi wir eisiau bod yn garedig i archifyddion y dyfodol, gadewch ychydig o fwlch ar y brig iddyn nhw ysgrifennu rhif yr archif!)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r dyddiad ar eitemau. Mae’r stampiau amser hyn yn darparu cyd-destun gwerthfawr a chyfeirnod hanesyddol ar gyfer eich casgliad.
Mae llawer o’r papur safonol rydyn ni’n ei ddefnyddio ychydig yn asidig felly bydd yn diddymu’n araf dros amser. Yn lle hynny, defnyddiwch bapur o ansawdd uchel neu ddi-asid.
Ar gyfer gwrthrychau corfforol, cofiwch gynnwys unrhyw fanylion pwysig. Fel y gwelwch o ddwylo’r doliau hyn o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, heb ddisgrifiad cysylltiedig o ryw fath, gallai’r cwestiwn o sut roedd yr eitemau hyn yn rhan o archif (neu hyd yn oed beth yw’r eitem!), barhau i fod yn ddirgelwch.
Dylech osgoi plygu papur os yn bosibl, wrth i bapur fynd yn hŷn gall y plygiau hyn ddod yn frau a chracio.
Gyda’r awgrymiadau hyn mewn golwg, gallwch gadw eich archif bersonol am genedlaethau i ddod i wneud gwaith archifydd (boed hynny’n archif neu un o’ch disgynyddion sy’n gwneud hanes teuluol) yn llawer haws.
Ochr yn ochr ag eitemau corfforol, y dyddiau hyn wrth gwrs mae gennym hefyd archifau electronig i ofalu amdanynt. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith y mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru wedi’i wneud i gefnogi Cadwraeth Ddigidol yma: Cadwraeth Ddigidol – Archifau Cymru