Archifau Byw: Adnoddau Staff

Fel rhan o’r prosiect hwn, mae strategaeth farchnata wedi ei chomisiynu ar ran CAChC a’i datblygu gan Monument Marketing.  

Mae’r strategaeth yn cyflwyno argymhellion i CAChC a’r sector archifau yng Nghymru eu hystyried ar y cyd i ddeall sut y gallwn ni ehangu ymestyniad y gwasanaeth, hyrwyddo’r bobl anhygoel sydd wrth galon yr archifau, ac arddangos y sector a’i rôl hanfodol ym mywyd Cymru. 

Fel rhan o gyflawni’r prosiect, ymgynghorir â gwasanaethau aelodau CAChC i sicrhau bod yr adnoddau a’r gweithgareddau ymgysylltu yr ydym yn eu cyflwyno ochr yn ochr â’r strategaeth yn ddefnyddiol, yn rhoi gwerth ar amser a gallu pobl i ymgysylltu, a’u bod yn hygyrch i bawb. 

Gwelwch y dogfennau canlynol sy’n crynhoi agweddau allweddol o’r strategaeth. Gallwn hefyd rannu’r strategaeth lawn. E-bostiwch ArchivesAlive@gwentarchives.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Lawrlwythiadau

  • Crynodeb o Strategaeth Marchnata ar gyfer Gwasanaethau CAChCPDF (229KB)
  • Crynodeb o Argymhellion Strategaeth Farchnata CAChCPDF (170KB)