Cofnodion mewn Perygl
Mae’r adnoddau a’r canllawiau canlynol yn ymwneud â chynnal arolwg ar gofnodion a monitro’r risg. Maent wedi’u dwyn ynghyd fel rhan o brosiect Cofnodion mewn Perygl Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, prosiect a ariennir gan Gronfa Archifau Covid-19 yr Archifau Gwladol.
Trefnwyd y canllawiau yn ddau brif linyn.
Mae Canfod ac Achub Archifau a Chofnodion sydd Mewn Perygl yn rhoi gwybodaeth am ganfod ac achub archifau a chofnodion sydd mewn perygl mewn cwmnïau ansolfent. Mae’n cynnwys canllawiau a grëwyd ar ran CACC fel rhan o’r prosiect Cofnodion mewn Perygl ei hun, yn ogystal ag adnoddau gan bartneriaid allanol megis y Tîm Rheoli Argyfwng.
Mae Adnoddau Arolygu Cofnodion yn cynnwys canllawiau ar sut i gynnal arolwg o bell ar gadw cofnodion mewn sefydliadau allanol fel elusennau a busnesau, ynghyd â dolenni i adnoddau allanol ychwanegol ynghylch cynnal arolygon ar gofnodion yn fwy cyffredinol.
Bydd gan bob gwasanaeth archifau ei bolisi datblygu casgliadau ei hun. Am ragor o wybodaeth am eu cylch gwaith casglu a’u canllawiau adneuo, cysylltwch â’r gwasanaethau’n uniongyrchol.