Y tro diwethaf i mi gyfrannu at y blog hwn oedd nôl ym mis Chwefror 2024 [darllenwch e yma] pan oedd ein prosiect yn agosáu at ddiwedd ei flwyddyn gyntaf. Dechreuodd y cyfan gyda chyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn sgil y pandemig pan oedd angen moderneiddio gwasanaethau archifau ar fyrder, a grymuso pobl â sgiliau digidol newydd i gysylltu ar draws gwahanol gymunedau.
Mae’r bartneriaeth waith a gafodd ei lansio rhwng partneriaid cychwynnol y prosiect, sef Casgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd, Archifau Morgannwg, Archifau Gwent a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bellach wedi croesawu Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifau Conwy, Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe a Casgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cam newydd hwn o’r prosiect yn cael ei ariannu’n hael gan Lywodraeth Cymru ac mae ein gwirfoddolwyr [dros 100 o bobl o bob cwr o Gymru a’r byd!] yn bwrw ymlaen â’u gwaith diwyd, gan weithio ar-lein i drawsgrifio a thagio dogfennau hanesyddol a ffotograffau i wella cyfleoedd i gyrchu’r casgliadau digidol yn y dyfodol drwy lwyfan ddwyieithog ar-lein a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r casgliadau mwy diweddar a gyflwynwyd gan y partneriaid, gan ddechrau gydag Archif Teulu Rolls o Archifau Gwent. Mae’r casgliad bendigedig yn cynnwys nifer o gofnodion ddyddiaduron gwyliau Georgina Marcia Rolls, neu Arglwyddes Llangatwg [1837-1923], cymdeithaswraig Brydeinig. Roedd Georgiana yn adnabyddus am ei diddordebau dyngarol a chymdeithasol, yn ogystal â hyrwyddo rôl menywod mewn cymdeithas ac, wrth gwrs, am ei mab ieuengaf, Charles, cyd-sylfaenydd Cwmni Rolls-Royce, a’r cyntaf i hedfan y Sianel, i’r ddau gyfeiriad. Mae dyddiaduron Georgiana wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith y gwirfoddolwyr, yn enwedig am ei llawysgrifen wych, ei darluniau hardd a’i sylwebaeth dda ar anturiaethau gwyliau, yn hwylio o amgylch Ewrop yng nghwch hwylio’r teulu, y ‘Fair Flirt’. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys llyfr ryseitiau diddorol a luniwyd yn ôl ym 1828 gan y cogydd Mary Long. Mae’n cynnwys llawer mwy na ryseitiau ar gyfer prydau bwyd! Yma, fe ddown o hyd i ryseitiau ar gyfer powdr dannedd, rysáit i wella llosg cylla a chyfarwyddyd ar sut i drin Cholera Morbus.

Ni allai’r casgliad nesaf o Lyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe fod yn fwy gwahanol. Dyma lyfr nodiadau gan John Roberts (1899-1979), neu ‘Jack Russia’ glöwr Cymreig, cynghorydd ac aelod blaenllaw o Blaid Gomiwnyddol Cymru, a aeth ati i’w ysgrifennu yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Hyfforddi Swyddogion Brigâd Ryngwladol yn Tarrazona, Sbaen ym 1937. Daw o Gasgliad Maes Glo De Cymru, a gedwir yn Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe. Mae’n cynnwys deunydd sylweddol sy’n gysylltiedig â Rhyfel Cartref Sbaen, a chyfraniad gwirfoddolwyr o Gymru. Mae’r llyfr nodiadau penodol yn cynnwys nodiadau, brasluniau a diagramau manwl am arfau, rhyfela a thactegau, a chafodd ei ysgrifennu ym 1937, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Mae Archifau Morgannwg wedi cyflwyno ein casgliad cyntaf i gynnwys deunydd Cymraeg wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrifen, i’w drawsgrifio gan ein gwirfoddolwyr. Mae’n cynnwys detholiad o lyfrau lloffion craff a luniwyd gan Ysgol Rhydfelen, yr ysgol gyfun Gymraeg gyntaf i agor yn ne Cymru, a’r drydedd o’i math yng Nghymru. Agorodd yr ysgol ei drysau ym 1962 gydag 80 o ddisgyblion, 3 athro llawn amser a 4 athro rhan-amser i addysgu disgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r llyfrau lloffion hyfryd, o’r cyfnod 1962 i 1980, yn cynnwys toriadau o bapurau newydd, ffotograffau, taflenni a thocynnau am ddigwyddiadau ysgol a hyd yn oed cyfres o gardiau Nadolig a ddyluniwyd gan ddisgyblion. Aeth Archifau Morgannwg ati i alwr gyn-ddisgyblion i gofrestru i drawsgrifio’r casgliad, yn y gobaith y gallant hefyd adnabod cyn-ddisgyblion yn y toriadau o bapurau newydd sy’n melynu erbyn hyn.

Cyfrannodd Casgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd gasgliad gwych o gylchgronau cynnar mewn llawysgrifen, i fyfyrwyr o’r cyfnod 1885 i 1888. Mae’r cyfrolau unigryw hyn yn llawn hwyl a mympwy wrth roi cipolwg diddorol i ni ar fywyd myfyrwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif yng Nghymru. Mae pob rhifyn yn dechrau gydag erthygl olygyddol ddoniol, a digon o erthyglau ar bob math o bynciau, barddoniaeth, adroddiadau ar deithiau grŵp a hyd yn oed teithiau damcaniaethol, a’r cyfan oll ochr yn ochr â brasluniau a ffotograffau cywrain.

Mae’r casgliadau eraill y mae ein gwirfoddolwyr yn mynd i’r afael â nhw ar hyn o bryd, yn cynnwys casgliad ffotograffig o ddechrau’r 20fed ganrif o ddelweddau atmosfferig o dde Cymru a dynnwyd fel sylfaen ar gyfer cardiau post a Llyfr Log o’r 19eg ganrif o Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan [y sefydliad hynaf yng Nghymru i ddyfarnu tystysgrifau gradd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bellach]. Fodd bynnag, fe wnaeth un casgliad penodol o lyfrau cofnodion cynnar gan grŵp Sefydliad y Merched de Cymru, ein harwain at ddarganfod cymeriad diddorol iawn, a gydag ychydig o waith ditectif, cawsom ni hyd i gofnodion amdani mewn dwy storfa archif arall, felly’n ein helpu i ddysgu mwy amdani.
Daeth Blanche Baker-Gabb yn adnabyddus i ni drwy ei gwaith rhagorol sydd wedi’i ddogfennu ar draws tudalennau Llyfrau Cofnodion cynnar Sefydliad y Merched Llanwenarth a gedwir gan Archifau Gwent. Roedd y gwirfoddolwyr wrth eu bodd yn trawsgrifio’r llyfrau hyn am eu bod yn rhoi cipolwg bywiog ar y gorffennol a byd nad oedd yn ein llethu a’n gorlwytho â thechnoleg fodern a’i disyfydrwydd. Mae’r llygedyn nesaf o olau yn ein tywys i Archif y teulu Baker-Gabb a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r archif hon yn cynnwys dwy gyfrol o ddarlleniadau meteorolegol (thermomedr, baromedr a mesurydd glaw) wedi eu hysgrifennu â llaw, a gofnodwyd ym mhreswylfa’r teulu Baker-Gabb, The Chain, yn Y Fenni, Sir Fynwy, yn ystod y cyfnod rhwng 1881 a 1947. Mae’n ymddangos bod y darlleniadau tywydd wedi’u cofnodi gan frawd hŷn Blanche, Richard Frederick, gan fod aelodau eraill o’r teulu yn cael eu crybwyll yn y trydydd person. Rydym yn dysgu mwy am Blanche yn y cofrestri hyn, oherwydd ar hyd gwaelod pob un o’r tablau manwl, mae cofnod dyddiadur bach yn cofnodi bywyd dyddiol y teulu. O’r dyfyniadau hyn, rydym yn dysgu bod Blanche, a ddeuai o deulu cefnog, yn gallu mwynhau bywyd cymdeithasol, cyfforddus, bywiog, heb bryder, yn ymweld â Llundain yn rheolaidd ac yn ciniawa gyda rhestr hir o ffrindiau, yn chwarae llawer o chwaraeon ac yn teithio dramor yn helaeth.

Fodd bynnag, roedd llawer mwy i Blanche na byw ar frig cymdeithas. Roedd hi’n swffragét, yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac wedi’i rhestru fel aelod yn Women’s Suffrage: The Common Cause of Humanity, mor gynnar â 1914. Roedd hi’n aelod gweithgar o nifer o gymdeithasau gan gynnwys Ysgrifenyddes cangen Y Fenni o Girl’s Friendly Society, ac yn mynychu cyfarfodydd cenedlaethol y gymdeithas yn Llundain yn rheolaidd. Roedd hi hefyd yn aelod o bwyllgor yr Eisteddfod leol, ac o 1915, mynychai gyfarfodydd y Groes Goch, Merched ar y Tir, a Phwyllgor Amaethyddol y Rhyfel.
Yn olaf, daethpwyd o hyd i enw Blanche ar ddeiseb ryfeddol, ymhlith 400,000 o lofnodion menywod eraill yng Nghymru, a ymdrechodd i warchod heddwch byd-eang tragwyddol ar ôl erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Trefnwyd y ddeiseb gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru [WLNU] ac mae’n ble gan fenywod Cymru i fenywod America i berswadio eu Harlywydd yn yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd a oedd newydd gael ei sefydlu, a’i arwain. Fe wnaeth y menywod yng Nghymru apelio i fenywod America i ymuno â nhw ‘o gartref i gartref’ ac o ‘aelwyd i aelwyd’ mewn galwad am ‘GYFRAITH NID RHYFEL’. Roedd yr ymgyrch hon yn ymdrech aruthrol ledled Cymru a oedd yn cynnwys bron i bob aelwyd, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws i geisio llofnodion newydd. Ym mis Mawrth 1924 dan arweiniad Annie Hughes Griffiths, cadeiryddes WLNU, teithiodd dirprwyaeth o Gymru i America i gyflwyno’r ddeiseb yn ffurfiol a chychwyn ar ddeufis o ‘Daith Heddwch’ o amgylch yr Unol Daleithiau.

Mae archifau’n llawn cymeriadau fel Blanche, sydd efallai’n ddi-nod yn y darlun llawn, ond y mae eu straeon yn dweud cymaint wrthym am y cyfnod yr oedden nhw’n byw ynddo. Yma mae gennym enghraifft o archifau hygyrch ar eu gorau, rhai sy’n tywys ein teithiau ni ein hunain trwy gasgliadau treftadaeth a hanes, i danio cysylltiadau newydd sydd mor hanfodol i ddod â straeon at ei gilydd. Rwyf eisoes wedi rhannu stori Blanche mewn blog, y gallwch ei ddarllen yma. Rwyf hefyd wedi annerch Cynhadledd Archifau Menywod Cymru yn Aberystwyth ym mis Hydref 2025.
Mae fy swydd fel Swyddog Prosiect yn greiddiol i gefnogi ein grŵp o wirfoddolwyr gwych ac ennyn eu diddordeb, am fod cymaint o brosiectau gwirfoddol anhygoel eraill allan yn y byd mawr! Rwy’n gwneud hyn yn bennaf trwy anfon e-bost yn fisol i gadw mewn cysylltiad. Byddaf bob amser yn dechrau gyda newyddion perthnasol, gwybodaeth gefndir am gasgliadau newydd gydag unrhyw ganllawiau diweddaraf, a rhestr o’r gweithgareddau allgymorth yr wyf wedi eu cyflawni. Rwy’n gorffen gyda rhestr o ddolenni i eitemau newyddion a allai fod o ddiddordeb – erthyglau cysylltiedig, a negeseuon blog i’w mwynhau dros baned a sleisen o gacen.
Cynigir sesiwn hyfforddi ar-lein i bob un o’r gwirfoddolwyr newydd, a hynny ochr yn ochr â sesiynau gloywi ychwanegol os oes angen. Bob hyn a hyn, byddaf hefyd yn cynnal sesiwn gymdeithasu ar-lein, drwy wahodd ein gwirfoddolwyr i ymgynnull i sgwrsio, a dod i adnabod ein gilydd, ble bynnag yr ydym ni, yng Nghymru neu ba le bynnag yn y byd. Gall hyn fod yn weithgaredd pwysig gan fod llawer o wirfoddolwyr yn ticio’r opsiwn “cwrdd â phobl newydd”, pan ofynnir iddynt beth maent yn gobeithio ei gael wrth fod yn wirfoddolwr digidol. Mae’r sesiynau hyn hefyd yn bwysig i mi yn bersonol gan fy mod yn gweithio gartref i raddau helaeth ac mae fy nghyfleoedd i ryngweithio â phobl o ddydd i ddydd yn eithaf cyfyngedig!
Gweithgaredd arall oedd yn boblogaidd yw Munud o Ryfeddod, pan ofynnom i’n gwirfoddolwyr ddewis eu hoff ddogfen, ac ysgrifennu darn byw i ddweud pam. Ysbrydolwyd y gweithgaredd hwn gan Arddangosfa gelf Munud o Ryfeddod yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brighton, lle mae pob gwaith celf yn cysylltu â stori a ysgrifennwyd gan wirfoddolwr. Fe wnaethon ni gynnal y gweithgaredd hwn yn ôl yn 2023 a gan ei fod mor boblogaidd fe wnaethon ni ei gynnal eto ychydig fisoedd yn ôl. Mae’r darnau hyfryd hyn a gyflwynwyd, wedi’u lan lwytho ar blatfform digidol y prosiect.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod ein proffil dal i fod yn weladwy yn y cyfryngau cymdeithasol, gan symud yn ddiweddar o X i Bluesky, postio fel gwesteion ar flogiau, gan gynnwys hwn ar gyfer CGGC, wyneb yn wyneb yn y ffordd hen ffasiwn, drwy gyflwyno i grwpiau a digwyddiadau cymunedol sydd â diddordeb, am nad oes unrhyw beth gwella na uniaethu ag ystafell llawn pobl sy’n taflu syniadau ac yn ymddiddori yn yr un pethau.
Rydym hefyd yn credu mewn rhannu gwybodaeth ac arfer gorau, a hyd yma, rydyn ni wedi cyhoeddi dau adroddiad prosiect. Cyhoeddwyd y cyntaf ar ddiwedd ein cyfnod NLHF, a’r ail, yn fwy diweddar, ar ôl ein blwyddyn gyntaf o dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru – mae’r ddau adroddiad ar gael ar wefan ein prosiect: #CrowdCymru | Archifau Gwent
Felly, beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig? Llawer o bethau cyffrous yn ôl y gobaith! Daw ein cyfnod cyllido presennol i ben ym mis Mawrth 2026, ond mawr obeithiwn y daw cyllid pellach – cawn glywed mwy yn y man!
Fel y soniwyd o’r blaen, rydym bellach yn bartneriaeth sy’n cynyddu, ac erbyn hyn rydym yn rhan o 9 sefydliad, sy’n llawn casgliadau diddorol i’w rhannu gyda Chymru a’r byd. Ein nod craidd o’r cychwyn cyntaf oedd gwella’r disgrifiadau o’r casgliadau, cynyddu mynediad at gasgliadau digidol a thanio ymchwil newydd, heddiw ac yn y dyfodol: tra yn ei dro, yn gwella gwybodaeth am gasgliadau helaeth y sefydliadau sy’n bartneriaid. A pha ffordd well o gyflawni’r nodau hyn na chydweithrediad newydd cyffrous rhwng #CrowdCymru a Chasgliad y Werin Cymru, gwefan rhad ac am ddim, sy’n ymroi i ddod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae’r tîm a sefydlwyd yn 2010, yn dîm bach a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Yn bartneriaid iddynt mae 3 sefydliad blaenllaw: sef Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Maent yn angerddol am ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, a’u rhannu. Maent yn credu y dylai pawb gael darn o’r jig-so sy’n plethu hanes cyfoethog Cymru – boed yn atgof, yn llythyr, yn hen ffotograff neu’n recordiad sain. Eu nod yw canfod a rhannu’r straeon hyn sydd yn aml heb eu hadrodd, ar y wefan, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r sefydliad hwn wrth barhau i rannu ein casgliadau a’n straeon diddorol ein hunain.
Os hoffech ymuno â’n tîm bywiog o wirfoddolwyr yma yn #CrowdCymru, neu os ydych chi eisoes yn rhan o grŵp cymunedol y gallai hwn fod o ddiddordeb iddo, cysylltwch â mi. Rwyf yn awyddus i ddod i siarad â chi, a gallwn gynnal sesiynau hyfforddi ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Gwefan: #CrowdCymru | Archifau Gwent
E-BOST: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Dysgwch fwy am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru drwy ddilyn y dolenni canlynol:
Deiseb Heddwch Menywod Cymru – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’r erthygl hon sy’n dwyn y teitl #CrowdCymru – gwirfoddoli digidol gydag archifau Cymru gan Jennifer Evans wedi’i thrwyddedu o dan Trwydded Ryngwladol 4.0 Creative Commons Attribution
