Yn parhau

Archifau Cymru Byw

Rhoi bywyd i gofnodion hanesyddol

Nod y prosiect hwn yw arddangos casgliadau a ddelir gan wasanaethau archifau yng Nghymru, a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd efallai na fyddent wedi ymgysylltu â gwasanaethau archifau o’r blaen. Wedi’i ariannu drwy Blaenoriaethau ar gyfer DiwylliantLlywodraeth Cymru, bydd y prosiect hwn yn cynyddu dealltwriaeth o’n cynulleidfaoedd presennol a photensial, yn cefnogi archifau gydag ymgysylltu, allgymorth a rhwydweithio, ac yn cyflwyno cyfres o weithgareddau i hyrwyddo’r defnydd o archifau yng Nghymru a mynediad atynt.

and identify opportunities to promote, engage and increase access to the collections held in archive services. A marketing strategy was produced from this research.    

Cam Darganfod (Tachwedd 2025 – Ebrill 2026): comisiynwyd ymgynghorwyr i; gynnal ymchwil cynulleidfa er mwyn archwilio a nodi rhwystrau posibl i fynediad, asesu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr, a nodi cyfleoedd i hyrwyddo, ymgysylltu â, a chynyddu mynediad at y casgliadau a gedwir mewn gwasanaethau archifau. Lluniwyd strategaeth farchnata yn sgil yr ymchwil hwn.

Cyflawni (Ebrill – Tachwedd 2026): gweithredir argymhellion yr ymgynghorydd a’r strategaeth farchnata drwy greu adnoddau a chynnal digwyddiadau sy’n chwalu rhwystrau rhag cael mynediad, ac yn hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae archifdai yn ei wneud fel rhan o’u cymunedau.

Bydd un elfen o’r prosiect yn canolbwyntio ar ymgysylltu digidol, ac yn benodol ar wirfoddoli digidol. Bydd hyn yn datblygu ymhellach waith gwych prosiect #CrowdCymru drwy gefnogi gwasanaethau archif a gwirfoddolwyr ychwanegol i ymgysylltu â gwirfoddoli digidol.

Bydd yr ail elfen yn canolbwyntio ar hyrwyddo ac ymgysylltu â gwasanaethau archifau, a bydd yn cynnwys gweithgareddau i ddatblygu digwyddiadau wyneb yn wyneb ac adnoddau digidol y gall gwasanaethau unigol eu defnyddio.