Archifau Cymru Byw: Datblygu Cynulleidfa

Rydym bellach yn cyfnod 2 ein prosiect Archifau Cymru Byw, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, felly dyma diweddariad ar ein waith.

Ar gyfer cam 1 y prosiect, rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ebrill 2026, comisiynodd Archifau Gwent ac Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CAChC) y cwmni Monument Marketing i lunio adroddiad a datblygu strategaeth farchnata genedlaethol i hybu gwell gwelededd, perthnasedd ac ymgysylltiad ar draws y sector archifau.

Ym mis Ebrill dechreuodd yr ail gam y prosiect, drwy recriwtio dau Swyddog Ymgysylltu i ddechrau gweithredu argymhellion y prosiect; Emma West a James Phillips.

Meddai Emma: ‘Ymweliad cyntaf ag archif oedd pan oeddwn i’n gwneud fy PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydw i wedi bod wrth fy modd ers hynny! Fel ymchwilydd, rydw i yn hapusaf wrth chwilio drwy archifau; rydw i wrth fy modd yn rhannu’r llawenydd hwn â chynulleidfaoedd newydd drwy brosiect Archifau Cymru Byw.’

Meddai James: Buom i’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel ymchwilydd hanes, a rhoddodd hynny gyfle i mi archwilio archifau amrywiol ledled Cymru. Cafodd fy nghariad at hanes ei danio gan yr ymweliadau hynny, a thrwy ddysgu wrth staff y gwasanaethau archifau sy’n gwneud ein casgliadau’n hygyrch i bawb. Mae gen i angerdd dros ddefnyddio archifau a chwalu rhwystrau i alluogi pobl i ymgysylltu â hanesion a rennir, y pethau sydd yn gyffredin rhyngom, â’r sbardunau hynny ar gyfer sgyrsiau ehangach sy’n ein dwyn yn nes at ein gilydd.

I ddechrau, bu’r Swyddogion Prosiect yn ymgysylltu â’r sector archifau i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r prosiect, cyn cydlynu proses ymgynghori â gwasanaethau sy’n aelodau o CAChC ledled Cymru. Drwy arolwg, grwpiau ffocws a sgyrsiau unigol, yn ogystal â chyflwyniad yng Nghynhadledd CAChC 2026, datblygodd y swyddogion ddealltwriaeth glir o ba argymhellion sy’n flaenoriaeth i wasanaethau, a pha rai sy’n ymarferol o fewn amserlen y prosiect. Mae’r swyddogion hefyd yn cydnabod yr angen i ymgysylltu ar draws sectorau, â gwahanol sefydliadau yn y sectorau creadigol, diwylliannol a threftadaeth.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned yn flaenoriaethau ar gyfer cam nesaf y prosiect, lle bydd y swyddogion yn targedu cymunedau lleol yng Ngogledd, De a Chanolbarth Cymru drwy gyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys dau ddigwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu canllawiau ac adnoddau ar-lein, yn ogystal ag ar y broses gaffael ar gyfer darparu adnoddau digidol a phenodi gwerthuswr prosiect allanol.

Gallwch ddilyn hynt y prosiectau hyn ar ein tudalen newyddion, a chysylltu â swyddogion y prosiect, Emma West a James Phillips, drwy ArchivesAlive@GwentArchives.gov.uk.