Archifau Cymru yn yr Eisteddfod a Thu Hwnt

Mae archifau i bawb ac ar eich stepen drws! Maent yn ein cysylltu â’r gorffennol yr ydym yn ei rhannu, yn adrodd straeon symbylol personol a chyfunol, ac yn cadw cofnodion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ymunwch â ni yn Eisteddfod eleni ac yng Nghastell Aberteifi ar gyfer digwyddiadau ac arddangosfa’n dathlu archifau Cymreig a’r trysorau sydd ynddynt.

Casgliad John Turnor Mathias, Archifdy Ceredigion

Panel Eisteddfod, Dydd Sadwrn, 8 Awst, 3-3.45pm, Cymdeithasau 1

Diddordeb mewn dysgu mwy am sut i archwilio eich hanes lleol a hanes eich teulu? Ymunwch â Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CAChC) a’n panel i weld rhai o’r enghreifftiau cyffrous o gofnodion archifol sydd ar gael ac i drafod sut y gallwch gymryd rhan ar lefel leol a chymunedol.

Rydym yn falch iawn y bydd cyfeillion o Archifdy Ceredigion (Mair Humphries), Archifdy Sir Benfro (Claire Orr) a Chymdeithas Hanes Teuluol Dyfed (Phil Davies) yn ymuno â ni ar y panel. Cadeirydd y panel fydd Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd.

Ffotograffydd A. D. Evans, gyda diolch i Gastell Aberteifi

Arddangosfa Pafiliwn / Pavilion ’76, Castell Aberteifi, 1-31 Awst

Allwch chi gofio’r llwch?! Mae’n 50 mlynedd ers Eisteddfod ddramatig 1976, sy’n cael ei chofio fel ‘Eisteddfod y Llwch’ ar ôl haf hir, crasboeth.

Ymunwch â ni yng Nghastell Aberteifi yn Awst i weld arddangosfa’n coffau’r Eisteddfod yn 800 oed, sef ‘Eisteddfod y Llwch’ yn Aberteifi yn 1976.  Dewch i weld ffilm wreiddiol o Eisteddfod 1976 ochr yn ochr â lluniau, deunydd cofiadwy a phethau cyffrous eraill o’r 1970au o archifau ledled Cymru, a drefnir ar y cyd gyda Chastell Aberteifi, Archifdy Ceredigion, Archifdy Sir Benfro, Archifau Cymru  ac Archif Ddarlledu Cymru – Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Archifdy Ceredigion wedi casglu ynghyd cyfres o luniau trawiadol ar gyfer yr arddangosfa. Mae 10 yn cofio Eisteddfod ddramatig 1976, o’r seremoni cyhoeddi ymlaen, tra bod deg panel yn dwyn i gof rhai o olygfeydd eraill yr 1970au – i bawb sy’n cofio bywyd ar y pryd, bydd hon yn wledd o atgofion, i bawb arall, bydd yn agoriad llygad!

Bydd ffeiliau lluniau gyda rhagor o ddeunydd o’r 1970au a rhai gwrthrychau a llyfrau o’r cyfnod i’w gweld hefyd. Codwch gopi am ddim o ‘ABC of Archives’ i ddysgu mwy am amrywiaeth gyfoethog y casgliadau sydd ar gael i’w gweld yn Archifdy Ceredigion.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle hefyd i wylio tair ffilm o Archif Ddarlledu Cymru, gan gynnwys:

  • Darllediad BBC Wales o seremoni ddadleuol y cadeirio, lle mae Alan Llwyd yn derbyn y gadair yn anfoddog ar ôl i’r enillydd gwreiddiol, Dic Jones, gael ei farnu’n anghymwys i gystadlu.
  • Ffilm o 1976 o Basiant y Plant ‘a Oes Heddwch’, gan J R Evans, lle aeth plant o ysgolion uwchradd from Aberaeron, Llanbedr ac Aberteifi ati i ail-greu’r Eisteddfod gyntaf yn 1176. Ffilm gan ITV Wales.
  • Rhaglen ddogfen A Celtic Celebration, yn cynnig golwg y tu ôl i’r llenni ar baratoadau a dathliadau’r Eisteddfod yn 800 oed yn 1976, wedi ei chynhyrchu gan Revel Guest.

Diolch yn fawr i BBC Wales, ITV Wales a TransAltantic Films am ei gwneud yn bosibl i rannu’r ffilmiau rhyfeddol yma.

Mae castell a’r arddangosfa ar agor 10am tan 4pm pob dydd. Rhaid prynu tocyn i fynd i mewn i’r castell ond gallwch weld yr arddangosfa – yn y Pafiliwn yng ngerddi’r Castell – am ddim.

Pasiant y Plant Eisteddfod Aberteifi 1976 (ITV CYMRU), Archif Ddarlledu Cymru

Archifau Cymru yng Nghastell Aberteifi, 7 Awst, 11am – 2pm

Bydd gan Emma a James o Archifau Cymru Byw stondin fel rhan o ddigwyddiad arbennig yng Nghastell Aberteifi o 11am – 2pm ddydd Gwener, 7 Awst, a fydd yn dangos cyfleoedd i gymryd rhan yn fyw ac yn ddigidol gydag archifau Cymreig.

Bydd prosiect arobryn Crowd Cymru wrth law i ddangos i chi sut i gymryd rhan ar eu llwyfan  torfol dwyieithog, arloesol ble mae 120 o wirfoddolwyr wedi helpu i wneud eitemau yn archifau Cymru’n haws eu cyrchu a’u darganfod ar-lein.

Bydd Archif Ddarlledu Cymru yn ymuno gyda ni ac yn cyflwyno ymwelwyr i ffilm, teledu a radio o dros 100 mlynedd o ddarlledu yng Nghymru. Am ddim ac yn agored i bawb!

Gweithdy Crowd Cymru

Arianwyr a Phartneriaid

Mae holl ddigwyddiadau’r haf yma wedi cael cefnogaeth cronfa Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru, fel rhan o Archifau Cymru Byw: Rhoi bywyd i gofnodion hanesyddol. Nod y prosiect hwn yw arddangos casgliadau a ddelir gan wasanaethau archifau yng Nghymru, a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd efallai na fyddent wedi ymgysylltu â gwasanaethau archifau o’r blaen.

Mae Pafiliwn / Pavilion ’76 yn bosibl trwy gefnogaeth hael nifer o unigolion a sefydliadau, sydd wedi helpu gyda lluniau, ffilmiau ac eitemau ar gyfer ein harddangosfa. Mae ein diolch i:

Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru; BBC Cymru; ITV Cymru; TransAtlantic Films; Teulu’r diweddar Huw Emanuel; Amgueddfa Ceredigion; Papur y Tivyside; Papur y Western Telegraph; Papur Bro Clebran; Sainsburys; A.D Evans, Ffotograffydd; Emyr Rhys Evans, Ffotograffydd; Cymdeithas y Cymmrodorion; Julie John, Cleif Harpwood, Glen Johnson, Meinir Thomas, Richard Ireland, Gwenda Rudge, Tamzin Craine, Helen Palmer; Jewson – Aberteifi.