Croeso i brosiect ‘Ein Harchifau’, menter oedd â’r nod o feithrin deialog, cynwysoldeb, a chynrychiolaeth o fewn cymunedau Cymreig. Roedd y prosiect hwn yn ymroddedig i fynd i’r afael â’r bylchau mewn archifau sy’n effeithio ar gymunedau ymylol yng Nghymru, gyda’r nod o wau naratif mwy cytbwys sy’n adlewyrchu tapestri cyfoethog Pobl o Liw a chymunedau amrywiol Cymru. Ariannwyd y prosiect gan Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect Gweithredu Archifol: Rhaglen Newid mewn Gwasanaethau Archifau yng Nghymru.







Amcan craidd ‘Ein Harchifau’ oedd ymgysylltu â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol trwy gyfres o chwe gweithdy deinamig a rhyngweithiol. Roedd y gweithdai hyn yn llwyfan i leisiau amrywiol fynegi eu hunain trwy amrywiol arddulliau a chyfryngau artistig. Canlyniad y gweithdai hyn oedd corff o waith a oedd yn cofnodi meddyliau, straeon, a phrofiadau bywyd y rhai sydd yn aml ar y cyrion.
Bydd y casgliad hwn yn destament i sbectrwm bywiog poblogaeth Cymru, gan sicrhau bod y naratif hanesyddol yn fwy cynhwysol ac yn adlewyrchu’r cyfraniadau amrywiol sydd yn llunio a chynnal ein Cenedl. Bydd y gwaith sy’n deillio o’r gweithdai yn cael ei guradu a’i gadw fel rhan o archif gymunedol newydd mewn archifdai yn Wrecsam, Aberystwyth a Chaerdydd.
Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl gydweithwyr: Hoffem ddiolch yn arbennig i Sub-Sahara Advisory Panel (SSAP), Race Equality First, Pafiliwn Grangetown a Thŷ Pawb am ddarparu gwybodaeth gymunedol amhrisiadwy, a meithrin mannau diogel. Hoffem hefyd ddiolch i Amgueddfa Ceredigion, Amgueddfa Sain Ffagan, Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, Archifau Wrecsam a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bob cefnogaeth.
Rheolwr Prosiect: Jasmine Violet
