Defnyddio Archifau

Mae defnyddio archifau yn brofiad gwych. Mae pob eitem yn werthfawr ac yn unigryw, ac yn gysylltiad uniongyrchol â’r gorffennol. Wrth ddisgrifio archifau, dywedodd un o’n defnyddwyr eu bod fel ‘byd o bosibiliadau’. Gyda chymaint o bosibiliadau ar gael, gall weithiau fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.  

Mae timau archifau ledled Cymru wedi llunio Camu i Fyd Archifau adnoddau i’ch helpu i ddechrau ar eich taith drwy archif.  

Ble ddylwn i ddechrau? 

Mae ein fideo newydd, Camu i Fyd Archifau, a’r canllaw cysylltiedig, Camu i Fyd Archifau: Canllaw Cyflym, yn eich tywys drwy’r broses o ddefnyddio archif am y tro cyntaf.  

Mae’r fideo a’r canllaw sy’n addas i’r rheini sy’n defnyddio archif am y tro cyntaf, neu unrhyw un sy’n ymweld ag archif newydd, yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ddod o hyd i’r hyn sydd o ddiddordeb i chi, sut i gysylltu ag archifau, a chwilota drwy gasgliadau. 

Sut alla i ymgysylltu â gwasanaethau archifau? 

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau archif mewn sawl ffordd wahanol:  

  • Ymweld â gwasanaeth archif ar safle 
  • Chwilota drwy gatalogau casgliadau sydd ar gael o bell gan ddefnyddio catalogau ar-lein 
  • Chwilota drwy gasgliadau sydd wedi’u digideiddio   
  • Defnyddio canllawiau ymchwil i ddysgu mwy am gasgliadau a gedwir gan archifau ledled Cymru  
  • Mynd i ddigwyddiadau a drefnir gan archifau ar-lein neu wyneb yn wyneb, i ddysgu mwy am bynciau sydd o ddiddordeb i chi 
  • Defnyddio gwasanaethau ymchwil o bell a gynigir gan archifau unigol, i’r rhai nad ydynt yn gallu ymweld wyneb yn wyneb. 

Sut ydw i’n dod o hyd i’r hyn rydw i’n chwilio amdano? 

Mae ein fideo a chanllaw Camu i Fyd Archifau yn dangos i chi sut ganfod, a chysylltu â’r archif sy’n gweddu orau i’r maes sydd o ddiddordeb i chi. 

Y man cychwyn gorau yw cysylltu â’r archif i drafod eich ymholiad, fel y gallant roi cyngor i chi am y camau nesaf. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyswllt ar gyfer holl wasanaethau aelodau Archifau Cymru yma.  

Gallwch hefyd chwilio ar-lein gan ddefnyddio: 

Am awgrymiadau ar sut i bori drwy gatalogau archifol, gweler yr adran ‘Adnoddau’ isod.

Beth sydd angen i mi ei wybod cyn ymweld ag archif? 

Cael hyd i gofnodion  

  • Mae archifau yn wahanol i lyfrgelloedd – ni allwch bori’r silffoedd i ddod o hyd i’r archifau yr ydych chi am eu gweld. 
  • Mae archifau’n unigryw gan na ellir cael hyd i rai newydd os ydynt yn mynd ar goll neu’n cael eu difrodi – maent yn cael eu cadw’n ddiogel mewn ystafelloedd diogel pwrpasol o dan yr amodau amgylcheddol cywir. 
  • Pan fyddwch chi’n gofyn am eitem, bydd staff yr archif yn casglu’r eitem ar eich cyfer; ac, ar ôl i chi orffen â’r eitem, bydd y staff yn ei dychwelyd yn ddiogel tan y bydd ei hangen eto.  
  • Os yn bosibl, rydym yn annog ymwelwyr i nodi pa ddogfennau yr hoffent eu gweld yn rhan o’u hymweliad er mwyn sicrhau bod y broses mor llyfn ac effeithlon â phosibl.  

Mae archifau i bawb – helpwch ni i’w cadw’n ddiogel  

  • Mae timau archifau ledled Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod archifau’n fannau diogel, cynhwysol a chroesawgar. 
  • Mae rheoliadau ar waith i ymwelwyr er mwyn sicrhau bod cofnodion yn cael eu defnyddio’n ddiogel, fel y gellir cadw casgliadau yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau yn awr ac yn y dyfodol.  
  • Mae ein Rhestr Wirio i Ymwelwyr yn rhestru rhai o’r rheoliadau cyffredin sydd ar waith ledled Cymru. 
  • Edrychwch hefyd ar wefannau gwasanaethau archif unigol i weld a oes ganddynt ganllawiau ychwanegol sy’n benodol ar gyfer eu gwasanaeth. 

A oes angen i mi ddod ag unrhyw beth? 

Bydd llawer o wasanaethau yn gofyn am fath o ID pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf, er mwyn eich cofrestru fel defnyddiwr. Bydd rhai yn derbyn y Cerdyn Archifau, sy’n eich galluogi i gael mynediad at filiynau o gofnodion archifau ledled Cymru a’r DU. Edrychwch ar wefan yr archif o’ch dewis, a chysylltwch â nhw o flaen llaw i ofyn a oes angen i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi.  

Adnoddau