Cymryd Rhan

Mae llawer o ffyrdd y gallwch fynd ati i ddefnyddio archifau ledled Cymru. P’un a yw’n fater o fynd i ddigwyddiad mewn archif, cydweithio ar brosiect gyda ni, neu ddod yn wirfoddolwr, mae croeso i bawb.  

Gwirfoddoli  

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud. P’un a oes gennych angerdd am hanes, eisiau gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau, neu ddim ond eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil, mae gwirfoddoli yn eich gwasanaeth archifau yn ffordd wych o gymryd rhan a gwneud ffrindiau newydd. 

Gallwch fod yn unrhyw oedran ac yn awyddus i ddysgu sgil newydd neu ehangu eich CV, cael rhywfaint o brofiad gwaith, neu gael hyd i rywfaint o wybodaeth leol. Gall gwirfoddoli fod o fudd i chi drwy: 

  • ddatblygu eich sgiliau TG a sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith 
  • cael ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned 
  • rhoi hwb i’ch llesiant, eich iechyd a’ch cysylltiadau cymdeithasol 
  • gwella eich hyder wrth chwilio am swydd 
  • cael profiad gwaith mewn sector newydd – gweler hefyd tudalen gwirfoddoli y Gymdeithas Archifau a Chofnodion am ragor o wybodaeth. 

Mae rhai gwasanaethau archif hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli digidol fel y gallwch wirfoddoli o bell o gysur eich cartref eich hun. Mae menter arobryn platfform gwirfoddoli digidol Crowd Cymru, er enghraifft, yn dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i drawsgrifio dogfennau llawysgrifen a thagio ffotograffau digidol.  

Nid yw pob gwasanaeth archif ledled Cymru yn gallu cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar hyn o bryd; mae rhai cyfleoedd ar gael ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, holwch eich gwasanaeth archif lleol i weld pa gyfleoedd y gallant eu cynnig. 

Gweithio ar brosiect gydag archifau 

Mae Archifau yn gweithio ar brosiectau cyffrous gyda chymunedau lleol i gysylltu ein gorffennol a rennir â’r presennol.  

Rydym yn cydweithio ag unigolion, grwpiau a sefydliadau, o dreftadaeth a chadwraeth i addysg ac ymarferwyr creadigol. Mae ein tudalen newyddion yn llawn enghreifftiau o’r fath brosiectau cydweithredol anhygoel. 

Os hoffech weithio gydag archif benodol, cliciwch ar ein tudalen Gwasanaethau Archif i ddod o hyd i’w manylion cyswllt a chysylltwch â nhw. 

Adneuo eich dogfennau a’ch cofnodion 

Mae llawer o’r cofnodion sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau wedi’u cyfrannu neu’u hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Gallant ddod ar lawer o fformatau gwahanol, er enghraifft mewn llawysgrifen ar bapur, cofnodion digidol, ffotograffau neu ffeiliau sain. 

Bydd gan bob archifdy Bolisïau Casglu sy’n rhoi manylion am y mathau o gofnodion y maent yn eu casglu. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod ond yn casglu cofnodion sy’n ymwneud â’u hawdurdodaeth, arbenigedd pwnc neu faes ymchwil, ac sydd o werth parhaus. 

Os oes gennych chi gofnodion defnyddiol sy’n ymwneud â phobl neu leoedd yng Nghymru a allai fod o fudd parhaus i’r cyhoedd, yna gallwch ychwanegu at ein casgliadau. Gallwch un ai roi eich cofnodion i ni’n rhodd, neu eu hadneuo â ni ar fenthyg. Os ydych chi eisiau gyfrannu neu adneuo eich cofnodion, cysylltwch â’ch gwasanaeth archifau lleol.

Adnoddau